Iona Jones

Oddi ar Wicipedia
Iona Jones
GanwydHwlffordd Edit this on Wikidata
Man preswylLlanbedr Pont Steffan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, prif weithredwr Edit this on Wikidata
Swyddprif weithredwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Newyddiadures Gymreig yw Iona Jones, a fu'n Brif Weithredwr S4C o 2005 hyd 2010.

Cefndir teuluol ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganed Iona Jones yn Hwlffordd, Sir Benfro, ac fe'i magwyd yn Llanbedr Pont Steffan cyn symud gyda'i theulu i Gaerdydd yn chwech oed.

Mynychodd Ysgol Gymraeg Bryntaf ac Ysgol Gyfun Llanhari cyn astudio Hanes Economaidd a Chymdeithasol ym Mhrifysgol Caerwysg. Cwblhaodd Ddiploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth yng Nghanolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Mae'n briod ac yn fam i dri o blant.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ei gyrfa ym myd darlledu fel newyddiadurwr gyda BBC Cymru, gan ddod yn olygydd Taro Naw a Newyddion yn ddiweddarach, y ddwy yn cael eu cynhyrchu gan y BBC i S4C. Ymunodd Iona ag S4C gyntaf ym 1995 fel Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol. Symudodd i ITV Wales yn 2000, lle cynrychiolodd holl gwmnïau teledu Carlton ledled y DU mewn perthynas â'r Ddeddf Ddarlledu a materion strategol eraill. Dychwelodd i S4C ym Medi 2003 fel Cyfarwyddwr Rhaglenni. Daeth yn Brif Weithredwr S4C yn 2005.

Ar 28 Gorffennaf 2010, cyhoeddwyd fod Iona Jones wedi gadael S4C.[1] Ni roddwyd unrhyw esboniad am ei hymddiswyddiad. Ar 30 Gorffennaf 2010 galwodd y cyn-Brif Weithredwr Huw Jones am esboniad llawn gan ddweud fod gan y cyhoedd yr hawl i wybod beth a ddigwyddodd. Dywedodd Cyngor y Trethdalwyr "bod gan bobl Cymru hawl i wybod beth ddigwyddodd gan fod y Sianel yn derbyn arian cyhoeddus."[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]