Iona Banks

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Iona Banks
Ganwyd 20 Rhagfyr 1920 Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Mai 2008 Edit this on Wikidata (87 oed)
Galwedigaeth actor Edit this on Wikidata

Actores o Gymraes oedd Iona Banks (20 Rhagfyr 192020 Mai 2008), yn hannu o Trelogan, Sir y Fflint.

Dechreuodd actio yn Theatr Fach y Rhyl a roedd yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Cymru. Wedyn bu'n actio yn addasiad BBC Cymru o nofel T Rowland Hughes, Chwalfa, yn 1966.

Bu'n gweithio yn Saesneg gyda Willy Russell, gan chwarae Mrs Roberts yn y ddrama Our Day Out (1977), a'r un cymeriad yn Rhan 2 o'r gyfres deledu One Summer (1983). Roedd hefyd yn y gyfres Angels.

Am dros 20 mlynedd chwaraeodd y barforwyn Gwladys Lake ar yr opera sebon Pobol y Cwm.[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Actores Cwmderi yn marw , BBC Cymru Newyddion, 21 Mai 2008. Cyrchwyd ar 23 Mai 2008.
  2. Flintshire actress Iona Banks has died (en) , Eveningleader, 22 Mai 2008. Cyrchwyd ar 23 Mai 2008.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]