Neidio i'r cynnwys

Busnes Rhyngwladol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Busnes Rhyngwladol Cymru
Enghraifft o:sefydliad Edit this on Wikidata
Daeth i ben31 Rhagfyr 2010 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu26 Gorffennaf 2005 Edit this on Wikidata

Asiantaeth ddatblygu oedd Busnes Rhyngwladol Cymru, dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd gyda'r dasg o gyflwyno cymorth i gwmnïau sy'n dymuno ymsefydlu yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd yn 2006 dan yr enw "International Business Wales".

Cymerodd yr asiantaeth le Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) a Wales Trade International. Roedd yn dod o dan Adran Masnach a Thrafnidiaeth Llywodraeth y Senedd. Ar ddiwedd 2010, daeth y corff i ben fel endid annibynnol a daeth ei weithgareddau o fewn adran Economi Llywodraeth Cymru.[1][2] Roedd y cwmni cyfyngedig yn bodoli hyd at Tachwedd 2024 pan cafodd ei ddirwyn i ben yn wirfoddol.[3]

Helynt y cardiau credyd

[golygu | golygu cod]

Beirniadwyd yr asiantaeth yng Ngorffennaf 2009 am yr arian cyhoeddus a wariwyd gan ei swyddogion ar deithiau tramor yn 2008-2009. Cafwyd hyd i'r wybodaeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig trwy gais Rhyddid Gwybodaeth i Lywodraeth Cymru. Beirniadwyd yr asiantaeth am wario £750,000, ar 35 cyfrif cerdyn credyd corfforaethol, am y flwyddyn o Fehefin 2008 hyd Fai 2009 a hynny ar draul y trethdalwyr. Dywedodd Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, ei fod "yn warthus fod swyddogion cyhoeddus yn hedfan yn y dosbarth cyntaf, yn aros yn y gwestai drytaf ac yn bwyta yn y bwytai gorau - i gyd gyda sweip o'r cerdyn credyd Cymreig."[4]

Ar ôl gwadu'r cyhuddiad ar y dechrau, mae'r llywodraeth am gynnal ymchwiliad llawn i'r fater.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "House of Commons - International representation and promotion of Wales by UK bodies - Welsh Affairs Committee". publications.parliament.uk. Cyrchwyd 2025-01-30.
  2. Jones-Evans, Dylan (2010-07-16). "Closing overseas investment body is 'own goal' for Wales". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-01-30.
  3. "INTERNATIONAL BUSINESS WALES LIMITED filing history - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-01-30.
  4. "In the middle of a recession it's disgusting to know that public officials are flying first class, staying in the most expensive hotels, eating in the best restaurants - all at the swipe of the Welsh credit card." BBC Wales News: "Civil servants' £750k cards bill" 13.07.09
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.