Inland Empire

Oddi ar Wicipedia
Inland Empire
Cyfarwyddwr David Lynch
Cynhyrchydd David Lynch
Mary Sweeney
Jeremy Alter
Laura Dern
Marek Żydowicz
Ysgrifennwr David Lynch
Serennu Laura Dern
Jeremy Irons
Justin Theroux
Harry Dean Stanton
Julia Ormond
Cerddoriaeth David Lynch
Krzysztof Penderecki
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Absurda
Dyddiad rhyddhau 6 Medi 2006
Amser rhedeg 180 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Ffrainc
Gwlad Pwyl
Iaith Saesneg
Pwyleg
(Saesneg) Proffil IMDb

Ffilm ddirgelwch gydag elfennau o arswyd yw Inland Empire (2006), a ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan David Lynch. Dyma ffilm gyntaf Lynch ers Mulholland Drive yn 2001, ac mae llawer o debygrwydd rhwng y ddwy ffilm. Cafodd y ffilm ei rhyddhau yn gyntaf yn yr Eidal yng Ngŵyl Ffilm Fenis ar 6 Medi 2006. Gwnaeth y ffilm gymryd dwy flynedd a hanner i'w chwblhau, a dyma ffilm gyntaf Lynch i gael ei saethu yn gyfan gwbl mewn fideo digidol diffiniad safonol. Mae'r ffilm yn gyd-gynhyrchiad o Ffrainc, Gwlad Pwyl, a'r Unol Daleithiau.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ddirgelwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.