Indeg

Oddi ar Wicipedia

Merch chwedlonol neu led-hanesyddol o degwch diarhebol oedd Indeg neu Indeg ferch [G]Arwy Hir.

Cyfeirir ati yn y Trioedd dan yr enw Indeg ferch Arwy Hir fel un o 'Dair Caredigwraig Arthur' (Tair gordderch Arthur), ynghyd â Garwen ferch Henin Hen a Gŵyl ferch [G]Endawd. Ni wyddom nemor dim am ei thad Garwy Hir, ond roedd yn ffigwr pur amlwg yn y traddodiad Cymreig gyda enw fel carwr.

Yn y chwedl Culhwch ac Olwen rhestrir Indeg ferch Arwy Hir yn un o'r morwynion yn llys y brenin Arthur.

Cyfeirir at Indeg ddwywaith yng nghanu'r Gogynfeirdd diweddar (Casnodyn a Gruffudd ap Maredudd). Yng nghyfnod y Cywyddwyr daeth Indeg yn drosiad am harddwch merch, efallai yn rhannol am fod yr enw yn odli'n hawdd â teg. Ceir sawl enghraifft yng ngwaith Dafydd ap Gwilym, Madog Benfras, ac eraill. Mae Llywelyn Goch ap Meurig Hen yn cymharu ei gariad Lleucu Llwyd ag Indeg fel un sydd "Iawndwf rhianedd Indeg".

Ymddengys y bu chwedl(au) am Indeg yn cylchredeg ar un adeg ond does dim olion ohonynt erbyn heddiw. Mae'n amhosibl gwybod bellach ai merch cig a gwaed oedd Indeg ai duwies neu gymeriad chwedlonol Celtaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1961, arg. newydd 1991). Triawd 57 a'r nodiadau.