Ilarion, Archesgob Kyiv

Oddi ar Wicipedia
Ilarion, Archesgob Kyiv
Eicon o Sant Ilarion.
Ganwydc. 990 Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1055 Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd11 g Edit this on Wikidata
Swyddmetropolitan, Metropolitan of Kiev and all Rus' Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl11 Hydref Edit this on Wikidata

Clerigwr ac awdur o Rws Kyiv oedd Ilarion neu Hilarion (Rwseg: Иларион, Wcreineg: Іларіон, Belarwseg: Іларыён) a wasanaethodd yn Archesgob Kyiv o 1051 i 1054. Efe oedd y Slafiad cyntaf, yn hytrach na Groegwr, i ddal y swydd honno, ac efe hefyd oedd yr awdur cyntaf i ysgrifennu yn yr iaith Hen Slafoneg Eglwysig.

Ni wyddys dyddiadau na mannau ei enedigaeth a marwolaeth. Mae ei fywgraffiad yn seiliedig ar groniclau canoloesol y Rws, yn bennaf Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen. Dywed taw offeiriad o Eglwys yr Apostolion Sanctaidd yn Berestovo, ar gyrion Kyiv, ydoedd, a chloddiodd gell i'w hunan er mwyn gweddïo ar fryn ger Afon Dnieper, ac yno y byddai Sant Antwn yn sefydlu Ogof-Fynachlog Kyiv.[1]

Ilarion oedd yr ail o Archesgobion Kyiv, ar ôl y Groegwr Theopemptos (Wcreineg: Feopempt) a wasanaethodd o 1039 i 1051. Penodwyd Ilarion gan Iaroslav Ddoeth, Uchel Dywysog Kyiv, a fe'i cadarnhawyd gan gyngor o esgobion y Rws. Yn draddodiadol, dywed i Ilarion gymryd y swydd heb gefnogaeth Michael I Cerularius, Patriarch Caergystennin, ond mae ambell ysgolhaig yn credu nid yw hynny'n wir, ac mae'n debyg i'r ddwy offeiriadaeth ddod i gytundeb o ryw fath.[1][2] Fe'i olynwyd yn Archesgob Kyiv gan Roegwr arall, Efrem, erbyn 1055. Dim ond un Slafiad arall a fyddai'n dal yr archesgobaeth trwy gydol hanes Rws Kyiv.

Mae pregethau Ilarion ymhlith yr esiamplau amlycaf, a chynharaf, o lên Slafig. Ei waith enwocaf yw'r "Bregeth ar Gyfraith a Gras" (ysgrifennwyd cyn 1052), molawd i'r Sant Volodymyr, Uchel Dywysog Kyiv a sefydlogodd yr Eglwys Uniongred yn grefydd y wladwriaeth. Mae ysgrifeniadau Ilarion yn dangos gwybodaeth eang o batristeg a diffyniadaeth y Groegiaid.[2] Priodolir iddo dri gwaith arall: gweddi, cyffes ffydd, a chasgliad byr o gyfarwyddiadau i offeiriaid.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Lawrence N. Langer, Historical Dictionary of Medieval Russia (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2002), t. 69.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Hilarion of Kiev. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Ionawr 2023.
  3. (Saesneg) "Ilarion, Metropolitan", Internet Encyclopedia of Ukraine. Adalwyd ar 21 Ionawr 2023.