Ifor Wyn Williams
| Ifor Wyn Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | 31 Awst 1923 Bangor |
| Bu farw | 1999 |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Galwedigaeth | awdur |
Athro ac awdur o Gymru oedd Ifor Wyn Williams (31 Awst 1923 – 1999).
Magwyd Ifor ym Mangor a mynychodd ysgolion Hirael a Friars cyn hyfforddi yn Y Coleg Normal. Roedd yn filwr am gyfnod yn yr Ail Ryfel Byd.[1]
Bu yn brifathro yn Rhosgadfan, Conwy a Llanfairpwll, cyn troi'n ddarlithydd ffilm yn Y Coleg Normal yn y 1990au.
Enillodd wobr Nofel Antur yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1966. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1971 gyda'r nofel Gwres o'r Gorllewin. Ysgrifennodd ddramâu, pantomeim a chyfresi ar gyfer radio a theledu yn cynnwys Lleifior (1991-1994), Cysgodion Gdansk a Barbarossa, a 14 o nofelau. Fo hefyd oedd awdur y ffilm Owain Glyndŵr.
Bu farw o ganser yn 1999.[2] Cyhoeddwyd ei nofel hunangofiannol olaf, wedi ei farwolaeth, dan yr enw Lôn Gweunydd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Yr Arwr Main (Hughes A'i Fab, 1962)
- Cyllell yn y Pridd (Christopher Davies, 1963)
- Mwg Melys (Hughes A'i Fab, 1964)
- Gwres o'r Gorllewin (Gwasg Gomer ar ran Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1971)
- Lôn Gweunydd (1999)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ifor ap Glyn - Lleisiau'r Rhyfel Mawr. BBC Cymru. Adalwyd ar 25 Ionawr 2021.
- ↑ Ifor Wyn Williams. BBC Lleol. Adalwyd ar 25 Ionawr 2021.