I Ble'r Aeth Haul y Bore?

Oddi ar Wicipedia
I Ble'r Aeth Haul y Bore?
Clawr y nofel
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurEirug Wyn
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
ISBN9780862434359

Nofel gan Eirug Wyn yw I Ble'r Aeth Haul y Bore? a gyhoeddwyd gyntaf ym 1997. Mae'n ffuglenoli taith y Nafacho (Navaho) o Geunant de Chelley i Bosque Redondo yn ystod Rhyfel Cartref America.

Mae prolog y nofel yn addasiad o ran o bennod gyntaf His Own Story, cofiant Geronimo a gyhoeddwyd ym 1907.[1]

Adolygiad[golygu | golygu cod]

Yr hyn sy'n gwneud gwaith Eirug Wyn yn unigryw yw ei fod yn medru cynhyrchu nofel boblogaidd ar ôl nofel boblogaidd a hynny heb aberthu safonau llenyddol. Mae'r ffaith iddo ennill Gwobr Daniel Owen ynghyd ag ennill y Fedal Ryddiaith ddwywaith yn cadarnhau hynny.

Nodwedd arall o'i waith yw ei ddychymyg anhygoel wrth iddo droi at wahanol feysydd. O nofel antur at nofel ar bêl-droed ac at, o bopeth, nofel ar Elvis. Y tro hwn, yn I Ble'r Aeth Haul y Bore trodd i fyd gorthrwm yr Indiaid brodorol yng Ngogledd America. Cymysgedd yw hon o ffaith a ffuglen, rhywbeth sy'n cael ei adnabod yn Saesneg fel faction. Fe'i seiliwyd ar ymfudo ac alltudiaeth y Nafacho o Geunant de Chelley i Fort Defiance ac yna i randir Bosque Redondo.

Mae'n gosod ei destun yn effeithiol iawn gyda rhagarweiniad sy'n addasiad o hunangofiant Geronimo. Llwyddodd i greu naws bywyd yr Indiaid gyda'r brawddegau yn troi’n lluniau o flaen ein llygaid. Hwyrach fod ei waith teledu gyda Ffilmiau'r Bont yn ffactor yn ei ddawn ddarluniol. O hynny ymlaen cawn hanes gwarthus alltudio'r llwythi, hanes sy'n cynnwys rhai cymeriadau go-iawn fel Kit Carson, Manuelito, y Cadfridog Carleton a Geronimo ei hun.

Gedy'r nofel flas chwerw wrth i ni sylweddoli nad oes dim wedi newid. Mae'r llywodraeth a alltudiodd yr Indiaid i drefedigaethau yn dal, ganrif a hanner yn ddiweddarach, i wneud yr un peth i bobloedd eraill mewn gwledydd ar draws y byd. A'r hyn sy'n gwneud y cyfan mor drist yw mai hanes cymharol ddiweddar yw hwn. Ym 1886, pan alltudiwyd yr holl Indiaid i wahanol drefedigaethau, fe gynhyrchodd Gottlieb Daimler ei gar modur cyntaf.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Adolygiad oddi ar [1], trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Eirug Wyn, I Ble'r Aeth Haul y Bore? (Talybont: Y Lolfa, 1997), t.4