ISRO
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth ofod, launch service provider ![]() |
Rhan o | Prime Minister's Office ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 15 Awst 1969 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Indian National Committee for Space Research ![]() |
Perchennog | Llywodraeth India ![]() |
![]() | |
Sylfaenydd | Vikram Sarabhai ![]() |
Aelod o'r canlynol | International Astronautical Federation, International Cospas-Sarsat Programme, Inter-Agency Space Debris Coordination Committee, International Space University ![]() |
Gweithwyr | 16,072 ![]() |
Isgwmni/au | Satish Dhawan Space Centre, Space Applications Centre, Vikram Sarabhai Space Centre, Indian Space Research Organisation Satellite Centre, Liquid Propulsion Systems Centre, Laboratory for Electro-Optics Systems, ISRO Propulsion Complex, ISRO Inertial Systems Unit, Antrix Corporation, Indian Institute of Remote Sensing ![]() |
Rhiant sefydliad | Department of Space ![]() |
Ffurf gyfreithiol | corfforaeth ![]() |
Cynnyrch | spacecraft ![]() |
Pencadlys | Bangalore ![]() |
Gwladwriaeth | India ![]() |
Rhanbarth | Karnataka ![]() |
Gwefan | https://www.isro.gov.in/, https://www.isro.gov.in/hi ![]() |
![]() |
Cafodd y Sefydliad Ymchwil Gofod Indiaidd (Saesneg: Indian Space Research Organisation; ISRO) ei greu ym 1969. Mae'r sefydliad yn gyfrifol am ddatblygu technoleg ofod yn India. Mae'i bencadlys yn Bangalore.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Lawnsiwyd y lloeren Indiaidd cyntaf, Aryabhata, ym 1975 ar roced Sofietaidd, ond erbyn 1980, roedd yr ISRO wedi ariannu roced brodorol, yr SLV (Cerbyd Lawnsio Lloeren; Satellite Launch Vehicle). Llwyddodd SLV i lawnsio lloeren yn llwyddiannus ar 18 Gorffennaf 1980. Olynydd yr SLV oedd yr ASLV (Advanced Satellite Launch Vehicle); ond doedd yr ASLV ddim yn ddibynadwy - roedd ddau o'i bedwar lawnsiadau yn fethiant. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r ISRO wedi datblygu cyfres o rocedi sydd yn addas i lawnsio lloerennau cyfathrebu, ac wedi enill rhan o'r farchnad fasnachol, yn lawnsio lloerennau i wledydd eraill yn ogystal â chwmniau.
Fforio'r gofod[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae ISRO wedi mynegi diddordeb mewn fforio Cysawd yr Haul, ond hyd yn hyn, mae eu hymdrechion yn y cyfeiriad hwn wedi bod yn gymharol fodest. Roedd Chandrayaan-1 (lawnsiwyd 22 Hydref 2008) yn berwyl llwyddiannus i gylchdroi'r Lleuad, er nifer o namau technegol; anfonwyd chwiliedydd gofod bach o'r lloeren i wyneb y Lleuad yn Nhachwedd 2008. Lawnsiwyd chwiliedydd o'r enw Mars Orbiter Mission i fforio'r blaned Mawrth yn Nhachwedd 2013, ac mae cynllun ar y gweill i anfon chwiliedydd arall i'r blaned Gwener yn 2015.