Hwyaden benddu
| Hwyaden benddu | |
|---|---|
| Iâr (chwith) a cheiliog (de) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Anseriformes |
| Teulu: | Anatidae |
| Genws: | Aythya |
| Rhywogaeth: | A. marila |
| Enw deuenwol | |
| Aythya marila (Linnaeus, 1758) | |

Mae'r Hwyaden benddu (Aythya marila) yn un o deulu'r hwyaid trochi ac yn aderyn niferus yn rhannau gogleddol Ewrop, Asia a gogledd America.
Mae'n nythu ar lawr gerllaw llynnoedd a chorsydd ar y twndra, weithiau nifer o barau gyda'i gilydd. Ei prif fwyd yw anifeiliaid bychain ac weithiau planhigion, ac mae'n plymio i waelod y dŵr i'w casglu. Mae'n aderyn mudol, sy'n symud tua'r de yn y gaeaf ac fel rheol yn gaeafu ar y môr yn agos i'r glannau, er ei fod hefyd i'w weld ar lynnoedd.
Gellir adnabod y ceiliog yn weddol hawdd. Mae ganddo ben du gyda gwawr wyrdd, bron ddu, cefn llwyd golau, gwyn ar yr ochrau a'r bol a chynffon ddu. Gall fod yn anoddach gwahainaeth rheng yr iâr, sydd a phlu brown golau, a iâr Hwyaden gopog sy'n eithaf tebyg. Mae gan iâr Hwyaden benddu ddarn gwyn gweddol fawr wrth fôn y pig. Gall rhai ieir Hwyaden gopog ddangos ychydig o wyn wrth fôn y pig hefyd, ond mae bob amser yn llai.
Yng Nghymru mae'r Hwyaden benddu yn aderyn gweddol gyffredin yn y gaeaf, ar y môr neu ar ambell lyn. Amrywia'r niferoedd o flwyddyn i flwyddyn, ond maent yn gymharol fychan fel rheol.