Hugh Dennis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hugh Dennis
Now Show 2005 Hugh Dennis.jpg
Ganwyd Peter Hugh Dennis Edit this on Wikidata
13 Chwefror 1962 Edit this on Wikidata
Kettering Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Digrifwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Outnumbered Edit this on Wikidata

Mae Peter Hugh Dennis (ganed 13 Chwefror 1962) yn gomedïwr, actor, ysgrifennwr, dynwaredwr a throsleisydd Seisnig. Fe'i adnabyddir fel un hanner y ddeuawd gomedi Punt and Dennis gyda'i bartner comedi Steve Punt, a fel Pete Brockman, y tad yn y comedi sefyllfa BBC One Outnumbered. Ers 2005, mae Dennis wedi bod yn banelydd rheolaidd ar y rhaglen gomedi dychanol BBC Two Mock the Week.

Ganwyd Dennis yn Kettering, Swydd Northampton,[1] yn fab i'r athrawes Dorothy M. Dennis (yn gynt, Hinnels) a John Dennis.[2] Mae ganddo un brawd, hefyd o'r enw John, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel Llysgennad Prydain i Angola.[2] Yn fuan ar ôl genediaeth Dennis, symudodd y teulu i Mill Hill yng Ngogledd Llundain wedi apwyntiad ei dad fel offeiriad mewn plwyf yn yr ardal. Aeth ei dad yn ei flaen i ddod yn Esgob Knaresborough, ac wedyn Saint Edmundsbury ac Ipsiwch.[3] Addysgwyd Dennis yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Yn ystod ei amser yno, chwaraeoedd rygbi gyda'r comedïwr Will Self, ac roedd yn brif bachgen yn ei flwyddyn derfynol.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]