Hondarribia
Gwedd
| Math | bwrdeistref Sbaen |
|---|---|
| Prifddinas | Hondarribia |
| Poblogaeth | 16,788 |
| Sefydlwyd | |
| Gefeilldref/i | Peníscola |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Basgeg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Mancomunidad de Servicios de Txingudi, UEMA - Udalerri Euskaldunen Mankumunitatea |
| Sir | Bidasoaldea |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 28.63 km² |
| Uwch y môr | 16 ±1 metr |
| Gerllaw | Môr Cantabria |
| Yn ffinio gyda | Pasaia, Lezo, Irun, Hendaia |
| Cyfesurynnau | 43.3624°N 1.7915°W |
| Cod post | 20280 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Hondarribia |
![]() | |


Tref yn nhalaith Guipúzcoa, Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Hondarribia (Basgeg: Hondarribia, Sbaeneg: Fuenterrabía). Saif tua 20 km o ddinas Donostia, ar lan Afon Bidasoa, sy'n ffurfio'r ffin rhwng Sbaen a Ffrainc yma. Ar lan arall yr afon mae Hendaye yn Ffrainc.
Twristiaeth a physgota yw'r prif ddiwydiannau yma, a cheir maes awyr Donostia gerllaw. "Fuenterrabía" oedd yr enw swyddogol hyd 1980, ond y flwyddyn honno penderfynwyd mai'r enw Basgeg fyddai'r enw swyddogol.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- José María Olazábal, golffiwr
