High School Musical 3: Senior Year
![]() Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Kenny Ortega |
| Cynhyrchydd | Bill Borden Barry Rosenbush Don Schain (cyd-gynhyrchydd) |
| Ysgrifennwr | Peter Barsocchini |
| Serennu | Zac Efron Vanessa Hudgens Ashley Tisdale Lucas Grabeel Corbin Bleu Monique Coleman |
| Cerddoriaeth | David Lawrence Matthew Gerrard Robbie Nevil Shankar Mahadevan |
| Sinematograffeg | Daniel Aranyò |
| Golygydd | Seth Flaum |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Walt Disney Pictures |
| Dyddiad rhyddhau | 24 Hydref 2008 |
| Amser rhedeg | 113 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Rhagflaenydd | High School Musical 2 |
| Olynydd | High School Musical 4: East Meets West |
| Gwefan swyddogol | |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
High School Musical 3: Senior Year yw'r drydedd ffilm yng nghyfres Disney High School Musical. Rhyddhawyd y ffilm yn yr Unol Daleithiau ar y 24ain o Hydref, 2008. Dychwelodd Kenny Ortega fel y cyfarwyddwr a'r coreograffwr ynghyd â'r chwech prif gymeriad.
Mae'r ffilm hon yn dilyn hynt a helynt dau o ddisgyblion hŷn yr ysgol, Troy a Gabriella wrth iddynt orfod wynebu'r posibilrwydd o gael eu gwahanu wrth iddynt fynd i gyfeiriadau gwahanol ar ôl iddynt raddio o'r ysgol uwchradd East High. Mae eu ffrindiau Wildcat yn ymuno â hwy er mwyn cynnal sioe gerdd uchelgeisiol sy'n adlewyrchu eu profiadau, eu gobeithio a'u hofnau am y dyfodol.
Yn ystod y tridiau cyntaf pan gafodd y ffilm ei rhyddhau, gwnaeth High School Musical 3: Senior Year $42 milion yng Ngogledd America yn ogystal â $40 miliwn dramor, gan dorri'r record am y penwythnos agoriadol fwyaf ar gyfer ffilm gerddorol.
Ar y 7fed o Dachwedd, 2008, rhyddhawyd fersiwn karaoke o'r ffilm (High School Musical 3: Senior Year: The Sing-Along Edition) mewn rhai sinemau.
