Neidio i'r cynnwys

High School Musical 2

Oddi ar Wicipedia
High School Musical 2

Poster hyrwyddiad
Cyfarwyddwr Kenny Ortega
Cynhyrchydd Kenny Ortega
Bill Borden
Ysgrifennwr Peter Barsocchini
Serennu Zac Efron
Vanessa Hudgens
Ashley Tisdale
Lucas Grabeel
Corbin Bleu
Monique Coleman
Cerddoriaeth David Lawrence
Matthew Gerrard
Randy Peterson
Andy Dodd
Faye Greenberg
Jamie Houston
Adam Watts
Antonnia Armato
Andy Dodd
Kevin Quinn
Robbie Nevil
Shankar Mahadevan
Sinematograffeg Gordon Lonsdale
Golygydd Seth Flaum
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Disney Channel
Dyddiad rhyddhau 17 Awst 2007
Amser rhedeg 104 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Rhagflaenydd High School Musical
Olynydd High School Musical 3:
Senior Year
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Ffilm deledu Disney yw High School Musical 2 sy'n serennu Zac Efron a Vanessa Hudgens. Dyma'r ail ffilm yn y gyfres a chafodd ei noson agoriadol yn Disneyland, Anaheim, Califfornia ar yr 17eg o Awst, 2007. Mynychodd y prf gast y digwyddiad. Dangoswyd y ffilm ar y teledu am y tro cyntaf ar yr un noson, ar y Disney Channel yn yr Unol Daleithiau ac ar y sianel Family yng Nghanada.

Yn y ffilm, mae cymeriad Troy Bolton yn poeni ynglŷn â chael swydd, am fod pris mynd i'r coleg yn pwyso'n drwm ar ei feddwl, yn ogystal â cheisio sicrhau y bydd ef a'i gariad Gabriella Montez yn medru bod yng nghwmni ei gilydd dros wyliau'r Haf.

Gwelwyd y noson agoriadol gan gyfanswm o 17.3 miliwn o wylwyr yn yr Unol Daleithiau - 10 miliwn yn fwy na'r ffilm flaenorol - gan wneud y ffilm y ffilm Disney Channel mwyaf poblogaidd bryd hynny.

Cast

  • Troy Bolton (Zac Efron) yw prif gymeriad gwrywaidd y ffilm. Ef yw'r myfyriwr mwyaf poblogaidd yn East High School, ac mae'n gapten ar y tîm pêl fasged. Yn y ffilm hon, canodd Efron ei holl ganeuon, lle roedd ei lais ef wedi'i blethu â llais Andrew Seely yn y ffilm gyntaf High School Musical.
  • Gabriella Montez (Vanessa Hudgens) yw prif gymeriad benywaidd y ffilm.
  • Sharpay Evans (Ashley Tisdale) yw merch ddrwg y ffilm.
  • Ryan Evans (Lucas Grabeel) yw efaill Sharpay.
  • Chad Danforth (Corbin Bleu) yw ffrind gorau Troy ac mae'n ffrindiau da gyda Jason a Zeke.
  • Taylor McKessie (Monique Coleman)yw ffrind gorau Gabriella. Mae hi hefyd yn ffrindiau gyda Kelsi Nielsen a Martha Cox, ac mae'n canlyn gyda Chad. Hi yw capten y tîm Decathlon yn yr ysgol. Mae ganddi swydd haf yn Lava Springs fel Cydlynydd Gweithgareddau. Mae'n medru gweld gwir gymeriad Sharpay, a thuedda o fod yn sinigaidd pan yn trafod bechgyn.
  • Mr. Thomas Fulton (Mark L. Taylor) yw rheolwr Lava Springs.
  • Jack Bolton (Bart Johnson) yw tad Troy.
  • Mr. Vance Evans (Robert Curtis Brown) yw tad Ryan a Sharpay.
  • Mrs. Darby Evans (Jessica Tuck) yw mam Ryan a Sharpay, a Llywydd Pwyllgor Lava Springs.
  • Ms. Darbus (Alyson Reed) yw'r athrawes ddrama llym yn East High.
  • Kelsi Nielsen (Olesya Rulin) sy'n fyfyrwraig yn East High. Mae'n medru canu'r piano ac mae'n cyfansoddi.
  • Zeke Baylor (Chris Warren Jr.) sy'n ffrindiau â Troy a Chad, a chwaraea i'r tîm pêl fasged.
  • Jason Cross (Ryne Sanborn) sy'n ffrindiau â Troy, Chad, a Zeke a chwaraea ar y tîm pêl fasged.
  • Martha Cox (Kaycee Stroh) sy'n fyfyrwraig yn East High. Mae'n ffrindiau â Gabriella, Kelsi, a Taylor.
  • Jackie (Tanya Chisholm) yw un o ffrindiau Sharpay (h.y. Y Sharpettes).
  • Lea (Kelli Baker), Sharpette arall.
  • Emma (McCall Clark), Sharpette arall.
  • Mrs. Lucille Bolton (Leslie Wing Pomeroy) yw mam Troy a gwraig Mr. Bolton.

Y Caneuon

CânCenir yn bennaf ganCantorion EraillGolygfa
What Time Is ItTroy, Gabriella, Sharpay, Ryan, Chad, TaylorWildcatsYstafell ddosbarth, Coridoraum Caffi
What Time Is It (Pt. 2)Troy, Gabriella, Sharpay, Ryan, Chad, TaylorWildcatsTir Ysgol East High
FabulousSharpay and RyanSharpettesPwll Lava Springs
Work This OutTroy, Gabriella, Chad, Taylor, Kelsi, Zeke, Martha, JasonWildcats a Gweithwyr y GeginCegin Lava Springs
You Are The Music In MeTroy a GabriellaKelsi and WildcatsYstafell Fwyta Lava Springs
Humuhumunukunukuapua'aSharpay a RyanSharpettesCefn llwyfan Lava Springs
I Don't DanceChad a RyanBaseball Players, Wildcats, a ChwmniCae Pêl Fâs Lava Springs
You Are The Music In Me (Fersiwn Sharpay)SharpayTroy a SharpettesLlwyfan Lava Springs
Gotta Go My Own WayTroy a GabriellaDimPwll Lava Springs, Ystafelloedd Newid, Tir
Bet On ItTroyDimCwrs Golff Lava Springs
EverydayTroy and GabriellaWildcats and CompanyLava Springs Stage
All For OneTroy, Gabriella, Sharpay, Ryan, Chad, TaylorKelsi, Zeke, Martha, Jason, Wildcats, CwmniPwll Lava Springs