Henry de Gower

Oddi ar Wicipedia
Henry de Gower
Ganwydc. 1278 Edit this on Wikidata
Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 1347 Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddesgob esgobaethol Edit this on Wikidata

Clerigwr Normanaidd-Cymreig oedd Henry de Gower neu Henry Gower (sef 'Harri Gŵyr) (bu farw cyn 4 Mai 1347), a ddaeth yn Esgob Tyddewi.

Etholwyd de Gower yn Esgob Tyddewi ar 21 Ebrill 1328; cafodd feddiant o'r eiddo ar 26 Mai yn yr un flwyddyn a'i gysegru'n esgob ar 12 Mehefin 1328. Gwasanaethodd fel esgob o'r dyddiad hwnnw hyd ei farwolaeth yn 1347 (cyn 4 Mai).

Yn ystod ei dymor fel Esgob Tyddewi cychwynodd Henry de Gower ar raglen o waith pensaernïol. Ehangodd Blas yr Esgob yn Llandyfái yn sylweddol. Mae'r rhan fwyaf o'r hyn a welir ar y safle heddiw yn waith de Gower. Ef hefyd a adeiladodd yr ysbyty yn Nhyddewi ac a adnewyddodd Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn sylweddol. Dyma ddechrau cyfnod o "ddadeni pensaernïol" yn hanes Esgobaeth Tyddewi.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, argraffiad clawr papur 1991), tud. 414.
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.