Henry Spinetti

Oddi ar Wicipedia
Henry Spinetti
Ganwyd31 Mawrth 1951 Edit this on Wikidata
Cwm Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor, drymiwr Edit this on Wikidata

Mae Henry Anthony George Spinetti (geni 31 Mawrth 1951) [1] yn ddrymiwr sesiwn Cymreig sydd wedi cyfrannu'n gerddorol i nifer fawr o albymau roc a phop amlwg.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Spinetti yn y Cwm, ger Glynebwy i dad o dras Eidalig a mam Cymreig. Honnir bod ei daid tadol wedi cerdded yr holl ffordd o'r Eidal er mwyn chwilio am waith fel glöwr [2]. Roedd ei rienni, Giuseppe a Lily (née Watson), yn cadw siop chips yn y Cwm. Mae'n frawd iau i'r actor Victor Spinetti (1929–2012). Dechreuodd chwarae drymiau yn ddeuddeg mlwydd oed, ar ôl clywed The Beatles a phenderfynu mai dyna'r hyn yr oedd am ei wneud [3]. Aeth yn broffesiynol yn 16 mlwydd oed.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Spinetti ei yrfa recordio gyda'r band Scrugg,[4] oedd yn recordio ar label Pye. Roedd aelodau'r band yn cynnwys y Cymro Jack Russell, Chris Dee a'r canwr-gyfansoddwr o De Affrica, John Kongos. Yn y 1970au cynnar, ymddangosodd Spinetti gyda Kongos ar raglen Top The Pops y BBC yn perfformio sengl siart Kongos, "He's Gonna Step on You Again". Ar ôl gadael Scrugg, roedd gwaith cynnar Spinetti yn cynnwys cyfnodau gyda The Herd a Judas Jump, y grŵp agoriadol yng Ngŵyl Ynys Wyth 1970.[5]

Chwaraeodd Spinetti ar wyth o'r deg trac ar albwm Gerry Rafferty City to City (gan gynnwys y llwyddiant ysgubol "Baker Street"). Bu hefyd yn chwarae yng nghyngerdd coffa 2002 George Harrison, "The Concert For George".[6]

Recordiau[golygu | golygu cod]

Mae credydau recordio Spinetti yn cynnwys:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Henry Spinetti". www.procolharum.com. Cyrchwyd 26 Hydref 2018.
  2. Victor Spinetti &, Peter Rankin Victor Spinetti Up Front...: His Strictly Confidential Autobiography; Robson, 2006 ISBN1861059434 Archifwyd 2018-09-19 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 26 Hydref 2018
  3. Mike Dolbare: Henry Spinetti adalwyd 26 Hydref 2018
  4. Garage Hangover FLORIBUNDA ROSE AND SCRUGG adalwyd 26 Hydref 2018
  5. AllMusic: Judas Jump adalwyd 26 Hydref 2018
  6. Sonor: Henry Spinetti Archifwyd 2018-04-08 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 26 Hydref 2018
  7. "Bill Wyman - Willie And The Poor Boys (2004)". 21 April 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 April 2013. Cyrchwyd 14 May 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)