Henry Charles
Henry Charles | |
---|---|
Ganwyd | 1778 ![]() Breudeth ![]() |
Bu farw | 26 Rhagfyr 1840 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | diwinydd, mathemategydd, ysgrifennwr ![]() |
Mathemategwr ac awdur o Gymro oedd Henry Charles (1778 – 1840). Ganwyd yn Ffynon Loyw, plwyf Breudeth, sir Benfro, yn fab i Henry Charles, amaethwr lleol a fu'n aelod gyda'r Annibynnwyr yng nghanrif 18. Derbyniodd ei addysg yn ysgol capel Annibynnwyr Trefgarn Owen, ac yn ddiweddarach cyfrannodd lawer at yr achos hwnnw trwy gyfrwng erthyglau diwinyddol mewn misolion crefyddol megis Yr Efangylydd a Seren Gomer er enghraifft. Ymddiddorai yn bennaf yng ngwyddor rhifyddiaeth, ond meddai ar y ddawn i farddoni yn ogystal.
Bu farw yn 1840 yn 62 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Breudeth. Gadawodd arian i gapel Trefgarn Owen ac i'r Gymdeithas Genhadol.
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
- Y Diwygiwr, 1840, 322;
- Ewyllys yn Ll.G.C.;
- Brawdy MSS.