Hen Gastell y Bewpyr
Gwedd
| Math | castell, maenordy wedi'i amddiffyn, tŷ |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Llan-fair |
| Sir | Bro Morgannwg |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 23.6 metr |
| Cyfesurynnau | 51.4385°N 3.42707°W |
| Rheolir gan | Cadw |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw, John Bassett |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | GM001 |
Adfail manordy canoloesol yn Llanfair, ger y Bont-faen ym Mro Morgannwg, yw Hen Gastell y Bewpyr neu Hen Fewpyr. Bu'r teulu Basset yn byw yno o'r 14g tan 1709. Mae'r adeilad heddiw yng ngofal Cadw. Mae'n nodweddiadol am ei borthdy Tuduraidd, lle ceir colofnau yn y cyweiriau Dorig, Ionig a Corinthiaidd wedi'u pentyrru ar ben ei gilydd. Dyma enghraifft brin o bensaernïaeth glasurol yn treiddio i Gymru yn y Dadeni Dysg. Fe gynlluniwyd a cherfiwyd y porthdy yng Ngwlad yr Haf ac yna allforiwyd ef i Forgannwg.
