Hen Englynion: Diweddariadau

Oddi ar Wicipedia
Hen Englynion: Diweddariadau
AwdurGwyn Thomas
CyhoeddwrCyhoeddiadau Barddas
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi17/04/2015
ArgaeleddAr gael
ISBN9781906396749
GenreAstudiaethau llenyddol Cymraeg

Cyfrol am lenyddiaeth Gymraeg cynnar gan y bardd Gwyn Thomas yw Hen Englynion: Diweddariadau a gyhoeddwyd yn 2015 gan Gyhoeddiadau Barddas. Man cyhoeddi: Aberystwyth, Cymru.[1]

Diweddariadau o englynion hynaf yr iaith Gymraeg gyda rhagymadrodd gwerthfawr iddynt. Cynhwysir canu crefyddol, canu natur a gwirebau, ynghyd ag englynion sy'n gysylltiedig â chwedlau, yn benodol y tri chylch o englynion chwedlau: Canu Llywarch Hen, Canu Urien a Chanu Heledd.

Yr awdur[golygu | golygu cod]

Mae Gwyn Thomas yn fardd, yn feirniad ac yn academydd; bu farw 13 Ebrill 2016. Ef oedd Pennaeth Adran y Gymraeg. Cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth lenyddol. Cafodd ei enwebu yn ‘Hoff Fardd Cymru’ yn 2014.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017