Hen Englynion: Diweddariadau
Gwedd
Awdur | Gwyn Thomas |
---|---|
Cyhoeddwr | Cyhoeddiadau Barddas |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 17/04/2015 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781906396749 |
Genre | Astudiaethau llenyddol Cymraeg |
Cyfrol am lenyddiaeth Gymraeg cynnar gan y bardd Gwyn Thomas yw Hen Englynion: Diweddariadau a gyhoeddwyd yn 2015 gan Gyhoeddiadau Barddas. Man cyhoeddi: Aberystwyth, Cymru.[1]
Diweddariadau o englynion hynaf yr iaith Gymraeg gyda rhagymadrodd gwerthfawr iddynt. Cynhwysir canu crefyddol, canu natur a gwirebau, ynghyd ag englynion sy'n gysylltiedig â chwedlau, yn benodol y tri chylch o englynion chwedlau: Canu Llywarch Hen, Canu Urien a Chanu Heledd.
Yr awdur
[golygu | golygu cod]Mae Gwyn Thomas yn fardd, yn feirniad ac yn academydd; bu farw 13 Ebrill 2016. Ef oedd Pennaeth Adran y Gymraeg. Cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth lenyddol. Cafodd ei enwebu yn Hoff Fardd Cymru yn 2014.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017