Helo Bobol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Rhaglen radio ddyddiol o'r 1970au ac 1980au oedd Helo Bobol ac, heblaw am y newyddion, hon oedd y rhaglen gyntaf i'w glywed ar BBC Radio Cymru pan lansiwyd yr orsaf ar 3 Ionawr 1977. Cychwynnodd BBC Radio Cymru am 6.45am y bore hwnnw, gyda bwletin newyddion: yna, darlledwyd Helo Bobol rhwng 7 a 9, gyda bwletinau newyddion o fewn y rhaglen am 7.45 ac 8.45.[1]

Roedd Helo Bobol yn cael ei darlledu bob bore'r wythnos a'r cyflwynydd oedd Hywel Gwynfryn. Roedd y rhaglen yn gymysgedd o gerddoriaeth a chyfweliadau ac ambell bwt o gyngor.[2] Daeth y rhaglen i ben yn 1989.[3]

Dywedai Gwynfryn mai ystyr y BBC oedd 'Y Bobol Biau'r Cyfrwng' a bwriad y rhaglen oedd apelio at y bobl hynny ar draws Cymru. Daeth y rhaglen yn adnabyddus am ofyn i wrandawyr fathu termau Cymraeg newydd.[4]

Yn ddiweddarach, estynnwyd oriau Helo Bobol i gwmpasu'r hyn a enwyd gan Gwynfryn yn 'Bwrdd Brecwast Cynnar' (BBC) a'r 'Bwrdd Brecwast Hwyr'.[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Radio Cymru yn 30 oed. BBC Cymru. Adalwyd ar 6 Chwefror 2018.
  2.  1977 Helo Bobol. BBC Cymru. Adalwyd ar 6 Chwefror 2018.
  3.  Dyma 1989. BBC Cymru. Adalwyd ar 6 Chwefror 2018.
  4. Bathu geiriau yn y Gymraeg , BBC Cymru, 17 Mai 2017. Cyrchwyd ar 6 Chwefror 2018.