Haukadalur

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Geyser Strokkur, Haukadalur
Ynganiad o'r enw Haukadalur

Enw dyffryn yng Ngwlad yr Iâ yw Haukadalur (yr ystyr mewn Islandeg yw Ddyffryn yr Hebog, cymharer â 'hawk dale 'yn Saesneg). Mae'n gorwedd i'r gogledd o lyn Laugarvatn yn ne-orllewin Gwlad yr Iâ ar 64°18′40″N 20°17′2″W / 64.31111°N 20.28389°W / 64.31111; -20.28389.

Cartref y Geyser[golygu | golygu cod y dudalen]

Haukadalur yw cartref rhai o uchafbwyntiau naturiol Gwlad yr Iâ: y geyser a nodweddion geothermal eraill sydd wedi datblygu ar hyd dôm y Laugarfjall rhyolitic. Geysers mwyaf Haukadalur yw Strokkur a'r Geysir ei hun - a dyma roddodd y gair 'geyser' (neu 'giser'[1]) i ni. Mae Strokkur yn ddibynadwy iawn ac yn ymarllwys bob 5 i 10 munud, tra bod y Geysir ei hun, sydd yn fwy, yn ymarllwys yn llawer llai aml. Ceir hefyd mwy na 40 ffynnon boeth, mwd byw a fumarolau ger llaw.

Ceir y cofnod ysgrifenedig cynharaf o ardal geothermal Haukadalur yn 1294, pan sbardunwyd y ffynhonau poeth lleol gan ddaeargryn. Gwyddys i ddeargrynfeydd hefyd sbarduno giserau eraill gerllaw yn y gorffennol. Mae'r rhain yn cynnwys daeargrynfeydd a ddigwyddodd ar 17 a 21 Gorffennaf 2000. O ganlyniad i'r giserau, mae'r dyffryn yn atyniad boblogaidd gyda thwristiaid ers y 18g.

Atyniadau Cyfagos[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae rhaeadr Gullfoss oddeutu 10km i'r gogledd tuag at ucheldiroedd Gwlad yr Iâ ar hyd ffordd Kjölur. Yn ogystal â Gullfoss a'r Þingvellir, mae Haukadalur yn rhan o'r drindod sy'n creu cylchdaith enwog 'Y Cylch Aur' (Golden Ring) sy'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr a thwristiaid.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [http://geiriaduracademi.org Geiriadur yr Academi arlein.