Harriet Shaw Weaver

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Harriet Shaw Weaver
Harriet Shaw Weaver.jpg
Ganwyd 1 Medi 1876 Edit this on Wikidata
Swydd Gaer Edit this on Wikidata
Bu farw 14 Hydref 1961 Edit this on Wikidata (85 oed)
Achos: Clefyd Edit this on Wikidata
Saffron Walden Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth golygydd, Ysgrifennwr, Swffragét Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur, Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr Edit this on Wikidata

Ffeminist o Swydd Gaer, Lloegr oedd Harriet Shaw Weaver (1 Medi 1876 - 14 Hydref 1961) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel golygydd cychgrawn, awdur a swffragét. Hi oedd un o brif noddwyr y bardd Gwyddelig James Joyce.

Fe'i ganed yn Frodsham, Swydd Gaer ar 1 Medi 1876; bu farw yn Saffron Walden, Essex yn 85 oed.

Harriet Shaw Weaver oedd y chweched o wyth o blant Frederic Poynton Weaver, meddyg, a Mary (g. Wright) Weaver, aeres gyfoethog. Cafodd ei haddysgu'n breifat gan athrawes, Miss Marion Spooner, tan 1894, yn Swydd Gaer i ddechrau ac yn ddiweddarach yn Hampstead. Gwrthododd ei rhieni ei chais i fynd i'r brifysgol. Penderfynodd ddod yn weithiwr cymdeithasol. Ar ôl mynychu cwrs ar sail economaidd cysylltiadau cymdeithasol yn Ysgol Economeg Llundain (LSE) daeth yn rhan o'r ymgyrch dros bleidlais i fenywod ac ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod.[1][2]

Golygyu[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1911 dechreuodd danysgrifio i'r Freewoman: A Weekly Feminist Review, cyfnodolyn radical wedi'i olygu gan Dora Marsden a Mary Gawthorpe. Y flwyddyn ganlynol tynnodd ei berchnogion eu cefnogaeth ariannol yn ôl a chamodd Weaver i mewn i'w achub rhag difodiant a cholled ariannol. Yn 1913 cafodd y cylchgrawn ei ailenwi'n The New Freewoman. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno ar awgrym golygydd llenyddol y cylchgrawn, Ezra Pound, newidiwyd yr enw eto i'r Egoist. Yn ystod y blynyddoedd canlynol gwnaeth Weaver fwy o roddion ariannol i'r cyfnodolyn, gan ymwneud yn fwy â'r cwmni a oedd ei berchen, ac yn olygydd.[1]

Roedd Ezra Pound yn gyfrifol am ddod o hyd i gyfranwyr newydd, ac un o'r rhain oedd James Joyce. Roedd Weaver yn argyhoeddedig o'i athrylith a dechreuodd ei gefnogi, yn gyntaf drwy roi cyfres o A Portrait of the Artist as a Young Man yn yr Egoist yn 1914. Pan na allai Joyce ddod o hyd i unrhyw un i'w gyhoeddi fel llyfr, sefydlodd Weaver Wasg Egoist i'r diben hwn ar ei thraul ei hun. Yna cafodd Ulysses (eto gan Joyce) ei chyfresioli yn The Egoist ond oherwydd ei chynnwys dadleuol, amheus, cafodd y gwaith ei wrthod gan yr holl argraffwyr y cysylltodd Weaver â nhw a threfnodd iddo gael ei argraffu dramor. Parhaodd Weaver i roi cefnogaeth sylweddol i Joyce a'i deulu ond yn dilyn ei amheuon am ei waith Finnegans Wake, daeth eu perthynas dan straen, a bron i ben. Fodd bynnag, ar farwolaeth Joyce, talodd Weaver am ei angladd a gweithredodd fel ei ysgutor.

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Lafur a Phlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Simkin, John (August 2014). "Harriet Shaw Weaver". Spartacus Educational. Cyrchwyd 30 Awst 2018.
  2. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' ODNB