Habsburg
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Hapsbwrgiaid)
Enghraifft o'r canlynol | teyrnach |
---|---|
Daeth i ben | 1780 |
Rhan o | Etichonids |
Iaith | Slofeneg |
Dechrau/Sefydlu | 11 g |
Sylfaenydd | Guntram y Cyfoethog |
Enw brodorol | Habsburger |
Gwladwriaeth | Archddugiaeth Awstria, Coron Castilia, Coron Aragón, Iberian Union, Teyrnas Portiwgal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tylwyth sydd wedi bod o bwysigrwydd mawr yn hanes Ewrop yw'r Habsburg (hefyd Hapsbwrg).[1] Roedd y teulu yn wreiddiol o'r Swistir, a chafodd ei enw o'r Habichtsburg yn Aargau. Bu aelodau o dylwyth yr Habsburg yn teyrnasu am ganrifoedd dros Awstria, Bohemia a Hwngari. O 1438 hyd 1806, roedd bron pob Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn aelod o'r teulu Habsburg. Yn y 16g a'r 17g, roedd aelodau o'r tylwyth yn rheoli Sbaen a Portiwgal, ac yn y 19g yn rheoli rhannau o ogledd yr Eidal.
Mae'r teulu yn parhau, a rhwng 1979 a 1999 roedd Otto von Habsburg yn un o aelodau Senedd Ewrop dros yr Almaen. Yn 1961, roedd wedi ymwadu'n swyddogol a'i hawl ar orsedd Awstria.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "Hapsburg"