Hanes Suffolk

Oddi ar Wicipedia

Gellir olrhain aneddiadau cynhanesyddol yn Suffolk yn ôl i Hen Oes y Cerrig, a chanfuwyd cloddfeydd fflint yn ardal Breckland. Mae celc o lestri arian Rhufeinig, Trysor Mildenhall, yn dyddio o'r 4g OC, a fe'i cedwir yn yr Amgueddfa Brydeinig. Gwladychwyd Suffolk gan lwyth yr Eingl a daeth yn rhan o deyrnas Dwyrain Anglia yn ystod oes yr Eingl-Sacsoniaid. Yn safle Sutton Hoo, ger Woodbridge, cafwyd hyd i feddrodau Eingl-Sacsonaidd gan gynnwys claddedigaeth mewn llong, a nifer o arteffactau.

Ffynnai Suffolk yn economaidd yn yr Oesoedd Canol, a thyfodd sawl tref farchnad yn y sir, gan gynnwys Bury St Edmunds ac Ipswich. Y prif ddiwydiant oedd cynhyrchu a masnachu wlân, ac enwid brethynnau lleol ar ôl pentrefi Lindsey a Kersey.[1] Daeth Ipswich hefyd yn adnabyddus am adeiladu llongau.

Yn ogystal â ffermio defaid, daeth ffurfiau arall ar amaeth yn bwysig i'r economi yn y 18g, gan gynnwys cnydau grawn, betys melys, a llysiau. Cafwyd rhywfaint o drefoli a thrafnidiaeth o ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol, a datblygodd Ipswich yn enwedig yn ganolfan weithgynhyrchu. Mae pysgota o hyd yn bwysig i borthladd Lowestoft, ac ers Oes Fictoria adeiladwyd tai gwyliau ar yr arfordir. Wedi i'r Deyrnas Unedig ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd yn y 1970au, datblygwyd porthladd Felixstowe yn sylweddol. Mae twristiaeth o hyd yn bwysig i economi'r sir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Suffolk. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Medi 2023.