Hafod Garegog
Math | ffermdy, plasty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystad Hafod Garegog |
Lleoliad | Beddgelert |
Sir | Beddgelert |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 12.6 metr |
Cyfesurynnau | 52.978319°N 4.080537°W |
Cod post | LL55 4YN |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Plasdy yn Nanmor ger Beddgelert, Gwynedd yw Hafod Garegog (hefyd: Hafodgaregog). Mae'r safle yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn wreiddiol, roedd yn gartref i'r bardd Rhys Goch Eryri (fl. 1385 - 1448). Gellir dyddio’r adeilad presennol i 1622 gydag ychwanegiadau yn y 18g ac eto yn 1970. Mae’r nodweddau hanesyddol yn cynnwys lle tân mawr, ffwrn fara, grisiau llechi troellog, a blodionau cerfiedig ar banel derw.
Safle
[golygu | golygu cod]Saif Hafod Garegog ar godiad o dir creigiog uwchben pen uchaf y Traeth Mawr. Fel rheol mae hafotai Eryri i'w cael yn y bryniau ar uchder o 600 troedfedd neu fwy, ond isel yw safle Hafod Garegog. Awgrymir iddo gael yr enw am fod bugeiliaid yn arfer mynd â phreiddiau yno ddechrau'r haf i fanteisio ar y tyfiant newydd ar y tir creigiog. Does dim yn weddill o blasdy canoloesol Rhys Goch heddiw, a safai rhwng y tŷ presennol ac Afon Nanmor, yn ôl pob tebyg.[1]
Traddodiadau
[golygu | golygu cod]Ceir sawl traddodiad am Hafod Garegog yng nghyfnod Rhys Goch Eryri. Dywedir fod un o ddwy gadair garreg a gysylltir ag ef yn gorwedd ar fryn ger y plasdy. O dan y tŷ mae 'Llwybr Rhys Goch', a enwir felly am iddo gael ei adeiladu gan y bardd, yn ôl traddodiad lleol.[2]
O safle'r tŷ gwelir yr haul yn codi ar gopa y Cnicht ac yn machlud ar gopa Moel Hebog ar hirddydd haf.
Cadwraeth
[golygu | golygu cod]Mae'r tir o gwmpas y plasdy yn cael ei ddynodi yn Warchodfa Natur Cenedlaethol ac yn cynnwys safleoedd lle ceir gloÿnnod byw prin.[3]