Hafod Garegog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hafod Garegog
Hafod Garregog - geograph.org.uk - 567791.jpg
Mathffermdy, plasty Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolHafodgaregog Estate Edit this on Wikidata
LleoliadBeddgelert Edit this on Wikidata
SirBeddgelert Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr12.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.978319°N 4.080537°W Edit this on Wikidata
Cod postLL55 4YN Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Plasdy yn Nanmor ger Beddgelert, Gwynedd yw Hafod Garegog (hefyd: Hafodgaregog). Mae'r safle yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn wreiddiol, roedd yn gartref i'r bardd Rhys Goch Eryri (fl. 1385 - 1448). Gellir dyddio’r adeilad presennol i 1622 gydag ychwanegiadau yn y 18g ac eto yn 1970. Mae’r nodweddau hanesyddol yn cynnwys lle tân mawr, ffwrn fara, grisiau llechi troellog, a blodionau cerfiedig ar banel derw.

Safle[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif Hafod Garegog ar godiad o dir creigiog uwchben pen uchaf y Traeth Mawr. Fel rheol mae hafotai Eryri i'w cael yn y bryniau ar uchder o 600 troedfedd neu fwy, ond isel yw safle Hafod Garegog. Awgrymir iddo gael yr enw am fod bugeiliaid yn arfer mynd â phreiddiau yno ddechrau'r haf i fanteisio ar y tyfiant newydd ar y tir creigiog. Does dim yn weddill o blasdy canoloesol Rhys Goch heddiw, a safai rhwng y tŷ presennol ac Afon Nanmor, yn ôl pob tebyg.[1]

Traddodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir sawl traddodiad am Hafod Garegog yng nghyfnod Rhys Goch Eryri. Dywedir fod un o ddwy gadair garreg a gysylltir ag ef yn gorwedd ar fryn ger y plasdy. O dan y tŷ mae 'Llwybr Rhys Goch', a enwir felly am iddo gael ei adeiladu gan y bardd, yn ôl traddodiad lleol.[2]

O safle'r tŷ gwelir yr haul yn codi ar gopa y Cnicht ac yn machlud ar gopa Moel Hebog ar hirddydd haf.

Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r tir o gwmpas y plasdy yn cael ei ddynodi yn Warchodfa Natur Cenedlaethol ac yn cynnwys safleoedd lle ceir gloynod byw prin.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007), tud. 2.
  2. Dylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007), tud. 21.
  3. BBC Wales