Hadleigh Parkes

Oddi ar Wicipedia
Hadleigh Parkes
Ganwyd5 Hydref 1987 Edit this on Wikidata
Hunterville Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Canterbury, Seland Newydd
  • Prifysgol Lincoln, Seland Newydd
  • Palmerston North Boys' High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra187 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau101 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auSouthern Kings, Y Scarlets, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Hurricanes, Blues, Manawatu, Auckland rugby union team, Eastern Province Kings, Saiatama Panasonic Wild Knights, Ricoh Black Rams Tokyo Edit this on Wikidata
SafleCanolwr, maswr, Asgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru yw Hadleigh William Parkes (ganwyd 5 Hydref 1987). Mae'n chwarae yn y cefnwyr ac yn ffafrio safle'r canolwr.

Mae Parkes yn enedigol o Seland Newydd. ac gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y lefel daleithiol yn 2010 gyda Manawatu. Yn 2011, symudodd i Auckland a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda'r Blues y flwyddyn ganlynol.[1]

Ar ôl tymor gyda'r Gleision, ymunodd â'r Southern Kings ar gyfer tymor 2013, a hynny ar gytundeb blwyddyn.[2][3] Ar ôl aros y fainc drwy gydol gêm gyntaf y Southern Kings yn erbyn Western Force,[4] daeth ar y cae yn ail gêm y tymor yn erbyn y Sharks[5] a dechreuodd y tair gêm nesaf. Fodd bynnag, torrodd ei fraich yn y gêm yn erbyn y Hurricanes yn Wellington[6] a methodd chwarae am fwy na thri mis.[7] Dychwelodd ar gyfer gêm olaf y tymor, gan ddechrau fel asgellwr yn erbyn y Sharks.[8] Chwaraeodd hefyd yn y ddwy gêm ddyrchafiad / diraddiad Super Rugby 2013, gan fethu â helpu'r Kings i gadw eu statws Super Rugby.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf o ddau yng nghystadleuaeth Cwpan Currie De Affrica yn gêm agoriadol yn nhymor Adran Gyntaf Cwpan Currie, pan ddechreuodd y gêm yn erbyn y Pumas.[9]

Dychwelodd i Seland Newydd ar ôl y gemau dyrchafiad / diraddiad Super Rugby i fod yn gapten Auckland yng Nghwpan ITM 2013 .[10]

Ar ôl diwedd tymor Cwpan ITM 2014, symudodd Parkes i'r Sgarlets, un o'r pedwar tîm rhanbarthol Cymreig proffesiynol.[11] gan ei ailuno â chyn-hyfforddwr Auckland, Wayne Pivac. Gwnaeth Parkes ei ymddangosiad cyntaf pan ddaeth oddi ar y fainc mewn gêm Gwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop yn erbyn Ulster. Daeth ei gyfle cyntaf i ddechrau gêm i'r Sgarlets yn erbyn y Gweilch bythefnos yn ddiweddarach. Sgoriodd Parkes ei gais cyntaf i'r Scarlets yn erbyn Munster, ac fe gafodd hefyd wobr 'Seren y Gêm' am ei berfformiad.[12]

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Dewiswyd Parkes i chwarae dros dîm cenedlaethol Cymru wedi iddo gyrraedd y maen prawf o fod wedi preswylio yng Nghymru am dair blynedd. Cafodd ei ddewis ar gyfer gemau Rhyngwladol yr Hydref 2017 a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gêm olaf yn erbyn De Affrica ar 2 Rhagfyr 2017. Chwaraeodd fel canolwr a chafodd ei enwi'n 'Seren y Gêm' ar ôl sgorio dau gais.

Yn dilyn ei berfformiadau disglair yng ngemau rhyngwladol yr hydref ac i'r Sgarlets, cafodd ei ddewis i ddechrau pedair o bum gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2018, gan sgorio cais a chael gwobr 'Seren y Gêm' yn erbyn yr Eidal.[13][14] Dechreuodd bob un o gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019 heblaw am y gêm yn erbyn yr Eidal. Cafodd wobr 'Seren y Gêm' yn erbyn yr Alban a sgoriodd gais yn erbyn Iwerddon i gyfrannu at sicrhau'r Gamp Lawn gyntaf i Gymru ers 2012.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Blues player profile". Blues. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2013. Cyrchwyd 3 Hydref 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Kings to make three signings". EWN Sport. 3 Hydref 2012. Cyrchwyd 3 Hydref 2012.
  3. Nodyn:SA Rugby Squad
  4. Nodyn:SA Rugby Match Centre
  5. Nodyn:SA Rugby Match Centre
  6. Nodyn:SA Rugby Match Centre
  7. "Parkes blow for Kings". Sport24. 30 Mawrth 2013. Cyrchwyd 9 Ebrill 2013.
  8. Nodyn:SA Rugby Match Centre
  9. Nodyn:SA Rugby Match Centre
  10. "Parkes leads strong Auckland". Planet Rugby. 6 Awst 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-13. Cyrchwyd 9 Awst 2013.
  11. "Hadleigh Parkes arrives at the Parc". Scarlets. 2 Rhagfyr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-18. Cyrchwyd 17 Chwefror 2016.
  12. "Scarlets remain unbeaten at home despite late Munster comeback". Scarlets. 21 Chwefror 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-18. Cyrchwyd 17 Chwefror 2016.
  13. "Hadleigh Parkes Drafted Wales Squad Autumn". Cyrchwyd 27 Hydref 2017.
  14. "New Zealand-born centre Hadleigh Parkes handed Wales debut for South Africa clash and scores à try". The Telegraph. 30 Tachwedd 2017. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2017.