HD 149026 b

Oddi ar Wicipedia
HD 149026 b
Enghraifft o'r canlynolplaned allheulol Edit this on Wikidata
Màs0.38 ±0.06 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1 Gorffennaf 2005 Edit this on Wikidata
CytserHercules Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.051 ±0.019 Edit this on Wikidata
Paralacs (π)13.1526 ±0.03 Edit this on Wikidata
Radiws0.74 ±0.02 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae HD 149026 b yn blaned allheulol sy'n cylchio'r seren HD 149026, rhyw 275 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng nghytser Ercwlff.

Mae mesuriadau ei radiws a'i chrynswth yn awgrymu bod ganddi galon blanedol fawr iawn. Mae hi'n cymryd llai na 3 diwrnod i gylchio ei seren, gyda phellter o ddim ond 0.42 Unedau Seryddol rhyngddynt. Mae'r blaned yn llai ei maint na Iau (0.36 gwaith crynswth Iau, neu 114 gwaith crynswth y Ddaear).

Amcangyfrifir tymheredd y blaned i fod tua 1540 K, yn codi i 2500 K ar yr ochr sy'n wynebu'r seren. Mae'r tymheredd uchel yma yn awgrymu bod y blaned yn sugno bron y cyfan o'r goleuni sy'n syrthio arni, sy'n gwneud y blaned yn dywyll iawn ei lliw.

Mae yna sawl Sadwrn poeth" sydd wedi cael ei darganfod hyd yma, ond mae ganddwn nhw i gyd radii sydd yn gymharol i radiws Iau, tra nad ydy radiws HD 149026 b ond 73% radiws Iau, sy'n golygu ei bod yn rhyfedd o ddwys i gawr nwy o'i chrynswth. Gallai bod ganddi galon fawr wedi ei chyfansoddi o elfennau trwm, 70 gwaith yn fwy na'r Ddaear. Efallai bod gan y blaned yma fwy o ddeunydd creigiog a metelaidd na phob planed yng Nghysawd yr Haul at ei gilydd.

Amcangyfrifir bod ganddi ddisgyrchiant o 10g, sef dengwaith yn fwy na'r Ddaear.