Gên
Math | subdivision of skeleton (in vivo) |
---|---|
Rhan o | ceg |
Yn cynnwys | macsila, mandibl dynol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gên (lluosog genau) yn strwythur cymalog gwrthwynebol wrth fynedfa'r geg, a ddefnyddir fel arfer ar gyfer gafael a thrin bwyd. Mae'r term genau hefyd yn cael ei ddefnyddio'n fras ar gyfer y cyfan o'r strwythurau sy'n ffurfio cromgell y geg ac yn gwasanaethu i'w agor a'u cau. Mae'n rhan o gynllun corff y rhan fwyaf o anifeiliaid.
Arthropodau
[golygu | golygu cod]Mewn arthropodau, mae'r genau yn gitin ac yn gwrthwynebu yn ochrol, gallasant gynnwys mandiblau neu grafangyrn. Yn aml, maent yn cynnwys nifer o ddarnau'r geg. Mae eu swyddogaeth yn sylfaenol ar gyfer caffael bwyd, trawsgludiad i'r geg, a / neu brosesu cychwynnol (malu neu gnoi). Mae llawer o'r darnau a strwythurau cysylltiol (megis y pedipalpau) yn goesau sydd wedi eu haddasu.
Fertebratau
[golygu | golygu cod]Yn y rhan fwyaf o fertebratau, mae'r genau yn esgyrnog neu'n gartilagaidd ac yn gwrthwynebu yn fertigol. Maent yn cynnwys yr ên uchaf a'r ên isaf. Daw'r ên fertebraidd o'r ddau fwa ffaryngol mwyaf blaenllaw sy'n cefnogi'r tagellau, ac fel arfer byddant yn cynnwys nifer o ddannedd.
Pysgod
[golygu | golygu cod]Mae'n debyg bod yr ên fertebraidd wedi esblygu'n wreiddiol yn y cyfnod Silwraidd ac yn ymddangos yn y pysgod placoderm ac arallgyfeiriodd ymhellach yn y cyfnod Defonaidd. Credir bod y ddau fwa ffaryngol blaenaf wedi datblygu i ffurfio'r ên a'r bwa hyoid, yn y drefn honno. Mae'r system hyoid yn crogiannu'r ên o gawell yr ymennydd yn y benglog, gan ganiatáu symudedd mawr yn y genau. Er nad oes unrhyw dystiolaeth ffosil sy'n uniongyrchol gefnogi'r ddamcaniaeth hon, mae'n gwneud synnwyr yng ngoleuni'r niferoedd o fwâu ffaryngol sy'n weladwy mewn fertebratau hefo genau (y Gnathostomau), sydd â saith bwa, a fertebratau heb enau cyntefig (yr Agnatha), sydd a naw[1]
Credir bod y fantais ddewisol wreiddiol sy'n cael ei gynnig trwy esblygu gên yn gysylltiedig ag effeithlonrwydd anadlu, yn hytrach nag at fwydo. Defnyddiwyd y genau yn y pwmp bochaidd (sydd i'w gweld mewn pysgod ac amffibiaid modern) sy'n pwmpio dŵr ar draws tagellau pysgod neu aer i ysgyfaint amffibiaid. Dros gyfnod esblygodd defnydd mwy cyfarwydd yr enau (i bobl), sef bwydo. Swyddogaeth bwysig iawn mewn fertebratau. Mae llawer o bysgod teleost wedi addasu eu genau'n sylweddol ar gyfer sugno bwyd ac allwthiad ên, gan arwain at enau cymhleth iawn gyda dwsinau o esgyrn cysylltiedig[2].
Amffibiaid, ymlusgiaid ac adar
[golygu | golygu cod]Mae'r yr ên mewn tetrapodau wedi'i symleiddio'n sylweddol o'i gymharu â physgod. Mae'r rhan fwyaf o'r esgyrn ceg uchaf (blaengern, macsila, y gern, cwadrat y gern a chwadrat) wedi eu hymdoddi i ffurfio cawell yr ymennydd, tra bod yr esgyrn ên is (deintyddol, duegol, onglog, uwch onglog, a chymalol) wedi ymdoddi i greu'r mandibl. Mae'r ên yn ymgymalu trwy gymal colfachu rhwng yr esgyrn cwadrad a chymalol. Mae genau'r tetrapodau yn dangos graddau amrywiol o symudedd yn yr esgyrn ceg. Mae gan rai rhywogaethau esgyrn gên sydd wedi'u hymdoddi'n llwyr, tra bod gan eraill gymalau sy'n caniatáu symudedd yr esgyrn deintyddol, cwadrat neu'r macsila. Penglog neidr sy'n dangos y cinisis asgwrn pen mwyaf, sy'n caniatáu i'r neidr lyncu eitemau ysglyfaethus mawr.
Mamaliaid
[golygu | golygu cod]Mewn mamaliaid, mae'r genau yn cynnwys y mandibl (yr ên isaf) a'r macsila (yr ên uchaf). Mae gan epa atgyfnerthiad i esgyrn yr ên isaf o'r enw'r silff simïaidd.
Yn esblygiad ceg y mamal, daeth dau o esgyrn strwythur yr ên; (esgyrn cymalol yr ên isaf a'r cwadrat) yn llai o faint a chawsant eu hymgorffori yn y glust[3]. Cafodd llawer o'r esgyrn eraill ei ymsuddo i'w gilydd. O ganlyniad mae mamaliaid yn dangos ychydig neu dim cinisis esgyrn y pen, ac mae'r mandibl ynghlwm wrth yr asgwrn arleisiol gan yr unedau arleisiol mandiblaidd. Mae anhwylder yr unedau arleisiol mandiblaidd yn anhwylder cyffredin sy'n cael ei nodweddi gan boen, sŵn clicio a chyfyngu ar symudiad y mandibl[3].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Smith, M.M.; Coates, M.I. (2000). "10. Evolutionary origins of teeth and jaws: developmental models and phylogenetic patterns". In Teaford, Mark F.; Smith, Moya Meredith; Ferguson, Mark W.J. (gol.). Development, function and evolution of teeth. Cambridge: Cambridge University Press. t. 145. ISBN 978-0-521-57011-4.
- ↑ Britt, Robert Roy (28 November 2006). "Prehistoric Fish Had Most Powerful Jaws". Live Science.
- ↑ 3.0 3.1 Allin EF (December 1975). "Evolution of the mammalian middle ear". J. Morphol. 147 (4): 403–37. doi:10.1002/jmor.1051470404. PMID 1202224.