Neidio i'r cynnwys

Gwyneddigion

Oddi ar Wicipedia
Gwyneddigion
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas cyhoeddi testun ysgrifenedig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1770 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata

Cymdeithas lenyddol a diwylliannol a sefydlwyd gan Gymry alltud gwladgarol yn Llundain yn 1770 gyda'r amcan o ddiogelu a hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru oedd Y Gwyneddigion (weithiau Cymdeithas y Gwyneddigion). Mae'n cael ei hystyried yn aml yn ymateb gwerinol i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Dechreuodd y Gwyneddigion fel math o glwb bychan preifat i Gymry Llundain. Fel mae ei henw'n awgrymu, Gogleddwyr oedd y mwyafrif o'r aelodau. Roedd ei haelodau pwysicaf yn cynnwys y ffilanthropydd Owain Myfyr, y bardd Jac Glan y Gors, y geiriadurwr William Owen Pughe, a'r llenor a'r ffugiwr unigryw Iolo Morganwg. Ymhlith yr aelodau eraill yr oedd Siôn Ceiriog (John Edwards), Edward Jones (Bardd y Brenin), Twm o'r Nant (Thomas Edwards) a Davydd Hael o Dowyn (David Jones).

Cyhoeddodd y Gymdeithas sawl cyfrol sydd a lle pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg a datblygiad ysgolheictod Cymraeg, yn enwedig Barddoniaeth Dafydd ap Gwilym (1789), y Myvyrian Archaiology of Wales (1801-07, 3 cyfrol), a'r cylchgrawn hynafiaethol Y Greal (1805-7).

Cynhaliwyd sawl eisteddfod dan nawdd ac arweiniad y Gwyneddigion hefyd, yn cynnwys Eisteddfod y Bala 1793 ac Eisteddfod Caerwys 1798, sy'n gerrig milltir yn hanes yr eisteddfod fodern.

Dirwynodd gweithgareddau'r Gwyneddigion i ben yn ail chwarter y 19g, ac ni chlywir amdani ar ôl 1837. Ymunodd nifer o'r aelodau â'r Cymmrodorion ar ei newydd wedd. Yn 1976 ffurfiwyd cymdeithas lenyddol newydd gan Gymry Llundain dan yr enw 'Cymdeithas y Gwyneddigion'.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • R. T. Jenkins a Helen Ramage, A History of the Honourable Society of Cymmrodorion and of the Gwyneddigion and Cymreigyddion Societies (Llundain, 1951)
  • Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]