Gwylliaid Glyndŵr

Oddi ar Wicipedia
Gwylliaid Glyndŵr
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurDaniel Davies
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi04 Mehefin 2007
PwncNofelau Cymraeg i oedolion
Argaeleddmewn print
ISBN9780862439873

Nofel i oedolion gan Daniel Davies yw Gwylliaid Glyn Dŵr. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2007. Yn 2019 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod]

Nofel ddychanol yn dilyn ymgais herfeiddiol i ddwyn Llythyr Pennal o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ôl broliant y llyfr hwn (2007):

Fawrth y chweched 1406 ysgrifennwyd Llythyr Pennal – un o lythyrau pwysicaf hanes Cymru, yn datgan breuddwyd Owain Glyndŵr am ddyfodol y genedl. I ddathlu chwe chan mlwyddiant ers ei ysgrifennu mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi sicrhau'r hawl i ddefnyddio'r llythyr mewn arddangosfa arbennig. Yr un pryd mae sawl lleidr a chenedlaetholwr brwd yn gweld cyfle euraid i gyflawni'r dasg arwrol o ddwyn Llythyr Pennal i Gymru am byth. Er mwyn cyflawni'r dasg fe sefydlir un o'r mudiadau lleiaf brawychus ond mwyaf cyfrwys a welodd Cymru ers y Free Wales Army – Gwylliaid Glyndŵr.



Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013