Daniel Davies (nofelydd)
Gwedd
Daniel Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1966 Llanarth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, nofelydd |
Nofelydd Cymraeg yw Daniel Davies (ganwyd 1966). Ganwyd yn Llanarth, Ceredigion. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanarth ac Ysgol Uwchradd Aberaeron cyn iddo gwblhau gradd mewn cemeg a doethuriaeth yn yr un pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n ohebydd ar gyfer y Cambrian News cyn iddo symud i weithio fel newyddiadurwr ar-lein gyda BBC Cymru. Mae'n byw gyda'i deulu ym Mhen-bont Rhydybeddau, Ceredigion.
Yn 2011 enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam am ei nofel Tair Rheol Anhrefn.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Nofelau
[golygu | golygu cod]- Pelé, Gerson a'r Angel (Y Lolfa, 2001)
- Gwylliaid Glyndŵr (Y Lolfa, 2007)
- Hei-Ho! (Y Lolfa, 2009)
- Tair Rheol Anhrefn (Y Lolfa, 2011)
- Allez Les Gallois! (Gwasg Carreg Gwalch, 2016)
- Yr Eumenides (Gwasg Carreg Gwalch, 2017)
- Arwyr (Gwasg Carreg Gwalch, 2018)
- Pedwaredd Rheol Anhrefn (Y Lolfa, 2019)
- Ceiliog Dandi (Gwasg Carreg Gwalch, 2020)
- Oes Eos (Gwasg Carreg Gwalch, 2021)
Straeon byrion
[golygu | golygu cod]- Twist ar Ugain (Y Lolfa, 2006)
- Trên Bwled Olaf o Ninef (Gwasg Carreg Gwalch, 2023)