Gwyfyn sythlin du

Oddi ar Wicipedia
Hyppa rectilinea
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Hyppa
Rhywogaeth: H. rectilinea
Enw deuenwol
Hyppa rectilinea
(Esper, 1788)
Cyfystyron
  • Phalaena (Noctua) rectilinea Esper, 1788
  • Meganephria albopicta Matsumura, 1925

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn sythlin du, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod sythlin du; yr enw Saesneg yw Saxon, a'r enw gwyddonol yw Hyppa rectilinea.[1][2] Ei thiriogaeth yw canol a gogledd Ewrop. Mae i'w gweld hefyd yn Asia hyd at ddwyrain Siberia a'r Cefnfor Tawel.

Mae'r adenydd rhwng 33–41 mm a gwelir yr oedolyn yn hedfan rhwng diwedd Mai a dechrau Awst; ceir un genhedlaeth yn unig.

Prif fwyd y siani flewog ydy dail amrywiaeth o blanhigion megis: Vaccinium myrtillus, Vaccinium, Salix a Rubus.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn sythlin du yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur.