Rhyfel Colombia (1964–presennol)
Rhyfel anghymesur o ddwysedd isel a ddechreuodd yng Ngholombia yng nghanol y 1960au yw rhyfel Colombia neu ryfel mewnol Colombia. Ymleddir rhwng y llywodraeth a'r lluoedd arfog cenedlaethol, grwpiau paramilwrol, syndicetiau troseddol a masnachwyr cyffuriau, a herwfilwyr adain-chwith megis FARC ac ELN sydd i gyd yn ceisio dal eu tir a chynyddu eu dylanwad yn y wlad.[1][2][3][4][5][6][7]
Mae gwreiddiau'r rhyfel yn y cyfnod a elwir yn La Violencia – a gafodd ei sbarduno gan lofruddiaeth y poblyddwr Jorge Eliécer Gaitán ym 1948[8] – ac adlach y gormes gwrthgomiwnyddol yng nghefn gwlad Colombia a gefnogid gan yr Unol Daleithiau yn y 1960au. Yn sgîl y hinsawdd wleidyddol hon, penderfynodd ymgyrchwyr milwriaethus y Blaidd Ryddfrydol a'r Blaid Gomiwnyddol i ad-drefnu'n llu chwyldroadol o'r enw Fuerzas Armadas Revolucionarias de Colombia (FARC).[9]
Amrywia'r rhesymau dros frwydro o grŵp i grŵp. Honnir y FARC a herwfilwyr eraill eu bod yn ymladd dros hawliau'r bobl dlawd yng Ngholombia drwy eu hamddiffyn rhag drais y llywdraeth a darparu cyfiawnder cymdeithasol drwy gomiwnyddiaeth.[10] Mynna'r awdurdodau taw trefn a sefydlogrwydd a sicrháu iawnderau'r dinasyddion yw amcanion y llywodraeth a'r lluoedd arfog. Safbwynt adweithiol a hawlir gan y grwpiau paramilwrol sy'n brwydro'r gerilas adain-chwith.[11] Cyhuddir grwpiau herwfilwrol a pharamilwrol o fasnachu cyffuriau a therfysgaeth. Cyhuddir y holl ochrau sy'n ymwneud â'r rhyfel o droseddau yn erbyn hawliau dynol.
Yn ôl astudiaeth gan Ganolfan Genedlaethol y Cof Hanesyddol, bu farw 220,000 o bobl rhwng 1958 a 2013 (177,307 o sifiliaid a 40,787 o ryfelwyr) a gorfodwyd mwy na phum miliwn o sifiliaid i adael eu cartrefi rhwng 1985 a 2012, sef y nifer fwyaf o bobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol ac eithrio'r sefyllfa yn Syria.[12][13][14] Mae 15% o boblogaeth Colombia yn ddioddefwyr uniongyrchol o ganlyniad i'r rhyfel.[15] Cychwynnodd drafodaethau heddwch yn 2012, ac ar 23 Mehefin 2016 cytunodd llywodraeth Colombia a FARC ar gadoediad, gan ddod yn agosach at derfyn i'r rhyfel.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "War and Drugs in Colombia - International Crisis Group". Crisisgroup.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-20. Cyrchwyd October 14, 2014.
- ↑ "'Loco,' Colombia's Last Drug Lord, Extradited to New York". Foreign Policy. July 10, 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-18. Cyrchwyd October 14, 2014.
- ↑ "Neo-Paramilitary Groups Consolidating in Colombia: Report". Insightcrime.org. Cyrchwyd October 14, 2014.
- ↑ "Neo-paramilitaries do not deserve political status: Govt". Colombia News - Colombia Reports. Cyrchwyd October 14, 2014.
- ↑ "armed conflict Archives - Colombia News - Colombia Reports". Colombia News - Colombia Reports. Cyrchwyd October 14, 2014.
- ↑ "peace talks Archives - Colombia News - Colombia Reports". Colombia News - Colombia Reports. Cyrchwyd October 14, 2014.
- ↑ "The Colombian "War on Drugs", A Family Affair - SHOAH". Shoah.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-01. Cyrchwyd October 14, 2014.
- ↑ Garry Leech (2009). Beyond Bogota: Diary of a Drug War Journalist. Boston, MA: Beacon Press. tt. 242–247. ISBN 978-0-8070-6148-0.
- ↑ Mario A. Murillo; Jesús Rey Avirama (2004). Colombia and the United States: war, unrest, and destabilization. Seven Stories Press. t. 57. ISBN 978-1-58322-606-3.
- ↑ "Farc-EP confirma muerte de Marulanda a través de un comunicado". Rebelion.org. 2008-05-26. Cyrchwyd 2010-07-26.
- ↑ "War on Drugs and Human Rights in Colombia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-26. Cyrchwyd 2010-11-09. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Informe ¡Basta Ya! Colombia: memorias de guerra y dignidad: Estadísticas del conflicto armado en Colombia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-26. Cyrchwyd 2016-06-25.
- ↑ Historical Memory Group (2013). ""Enough Already!" Colombia: Memories of War and Dignity" (PDF) (yn Spanish). The National Center for Historical Memory’s (NCHM). ISBN 978-958-57608-4-4. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-10-09. Cyrchwyd 2016-06-25.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Report says 220,000 died in Colombia conflict". Al Jazeera. 25 July 2013.
- ↑ "Las víctimas su incidencia en la Mesa de Negociaciones de La Habana" (PDF). arcoiris.com.co. 14 May 2016.