Neidio i'r cynnwys

Gwenda Griffith

Oddi ar Wicipedia
Gwenda Griffith
Ganwyd10 Mawrth 1942 Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mai 2024 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcynllunydd tai, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata

Cynhyrchydd teledu o Gymraes oedd Gwenda Griffith (10 Mawrth 194221 Mai 2024).[1]

Magwyd Gwenda yng Nghorwen ac aeth i Ysgol Ramadeg y Merched yn y Bala. Graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Sefydlodd y cwmni Fflic yn 1982 er mwyn cynhyrchu rhaglenni teledu ar gyfer S4C. Yn yr 1980au cynhyrchodd y gyfres i ddysgwyr Now You're Talking. Yn y 2000au cafwyd cyfresi dysgu Cymraeg Welsh in a Week a Cariad@Iaith' yn 2000au.

Roedd Gwenda yn gynllunydd tai ac roedd nifer o'i cynhyrchiadau teledu yn adlewyrchu ei diddordebau. Cynhyrchodd y gyfres ffasiwn Steil, Pedair Wal a 04 Wal, Y Tŷ Cymreig a Cwpwrdd Dillad.[2] Cynhyrchodd raglenni plant hefyd yn cynnwys Stwffio, Nics Nain a Hip neu Sgip?

Yn 2005, daeth Fflic yn rhan o gwmni Boomerang (Boom erbyn hyn).[3] Yn y cyfnod hwn, cynhyrchwyd nifer o raglenni eraill yn cynnwys Cegin Bryn, 100 Lle, Dal Ati, Ceffylau Cymru a Caeau Cymru.

Roedd Gwenda wedi bod yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ers mis Tachwedd 2014.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Yn 2002 derbyniodd wobr arbennig Cymraes y Flwyddyn yn y Cyfryngau ac yn 2012 fe’i anrhydeddwyd gan Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru i gydnabod gwasanaeth arbennig yn hybu pensaerniaeth.[2]

Fe'i urddwyd i'r Orsedd gyda Gwisg Las yn 2012.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a Huw ac roedd ganddynt ddau o blant – Dylan a Beca.[2]

Bu farw yn 82 mlwydd oed.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Click here to view the tribute page for Gwenda GRIFFITH". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-06-09.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Nant Gwrtheyrn | Pwy 'Di Pwy". Nant Gwrtheyrn. Cyrchwyd 2024-05-23.
  3. Barry, Sion (2005-02-23). "Three into one is value added". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-23.
  4. "Rhestr lawn o'r Cymry i'w hurddo i Orsedd y Beirdd yn 2012". BBC Cymru Fyw. 2012-05-31. Cyrchwyd 2024-05-23.
  5. "Y cynhyrchydd teledu Gwenda Griffith wedi marw yn 82 oed". BBC Cymru Fyw. 2024-05-22. Cyrchwyd 2024-05-23.