Gwalch glas

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwalch Glas)
Accipiter nisus
Front view of bird of prey with barred underparts, yellow eyes and hooked bill
Benyw
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
(or Accipitriformes, q.v.)
Teulu: Accipitridae
Genws: Accipiter
Rhywogaeth: A. nisus
Enw deuenwol
Accipiter nisus
(Linnaeus, 1758)
Subspecies

A. n. granti
A. n. melaschistos
A. n. nisosimilis
A. n. nisus
A. n. punicus
A. n. wolterstorffi

      Breeding summer visitor       Resident year-round       Non-breeding winter visitor

Mae'r Gwalch glas (Accipiter nisus) yn aderyn rheibiol sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o Ewrop ac Asia.

Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer mae'n mudo tua'r de, weithiau cyn belled a Gogledd Affrica ac India, ond mewn rhannau eraill, megis Gorllewin Ewrop, mae'n aros o gwmpas ei diriogaeth trwy'r flwyddyn.

Iâr
Wyau'r Accipiter nisus
Accipiter nisus

Mae'n nythu mewn coed, ac yn hela adar bychain yn bennaf. Mae'n medru symud yn gyflym trwy'r coed i ddal adar cyn iddynt wybod ei fod yno. Gellir adnabod y Gwalch glas o'i gynffon hir ac adenydd gweddol fyr a llydan. Mae'r ceiliog yn llwydlad ar ei gefn a llinellau coch ar y fron, tra mae'r iâr yn fwy brown. Gellir cymysgu rhwng y Gwalch glas a'r Gwalch Marth ar brydiau, ond mae'r Gwalch glas yn llawer llai, yn enwedig y ceiliog sydd rhwng 29 a 34 cm o hyd a 59–64 cm ar draws yr adenydd. Mae'r iâr yn fwy, 35–41 cm o hyd a 67–80 cm ar draws yr adenydd, ond me'n dal i edrych yn aderyn llai na cheiliog Gwalch Marth. Mae iâr Gwalch Marth yn fwy byth, tua'r un faint a Bwncath.

Mae'r Gwalch glas yn aderyn cyffredin yng Nghymru ac i'w weld ymhobman heblaw yn y mynyddoedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BirdLife International Species factsheet: Accipiter nisus". BirdLife International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-04. Cyrchwyd 04 Mawrth 2010. Check date values in: |accessdate= (help)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]