Gwalch glas
| Accipiter nisus | |
|---|---|
| Benyw | |
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Falconiformes (or Accipitriformes, q.v.) |
| Teulu: | Accipitridae |
| Genws: | Accipiter |
| Rhywogaeth: | A. nisus |
| Enw deuenwol | |
| Accipiter nisus (Linnaeus, 1758) | |
| Subspecies | |
|
A. n. granti | |
Breeding summer visitor Resident year-round Non-breeding winter visitor
| |
Mae'r Gwalch glas (Accipiter nisus) yn aderyn rheibiol sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o Ewrop ac Asia.
Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer mae'n mudo tua'r de, weithiau cyn belled a Gogledd Affrica ac India, ond mewn rhannau eraill, megis Gorllewin Ewrop, mae'n aros o gwmpas ei diriogaeth trwy'r flwyddyn.


Mae'n nythu mewn coed, ac yn hela adar bychain yn bennaf. Mae'n medru symud yn gyflym trwy'r coed i ddal adar cyn iddynt wybod ei fod yno. Gellir adnabod y Gwalch glas o'i gynffon hir ac adenydd gweddol fyr a llydan. Mae'r ceiliog yn llwydlad ar ei gefn a llinellau coch ar y fron, tra mae'r iâr yn fwy brown. Gellir cymysgu rhwng y Gwalch glas a'r Gwalch Marth ar brydiau, ond mae'r Gwalch glas yn llawer llai, yn enwedig y ceiliog sydd rhwng 29 a 34 cm o hyd a 59–64 cm ar draws yr adenydd. Mae'r iâr yn fwy, 35–41 cm o hyd a 67–80 cm ar draws yr adenydd, ond me'n dal i edrych yn aderyn llai na cheiliog Gwalch Marth. Mae iâr Gwalch Marth yn fwy byth, tua'r un faint a Bwncath.
Mae'r Gwalch glas yn aderyn cyffredin yng Nghymru ac i'w weld ymhobman heblaw yn y mynyddoedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).