Grigore Vieru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Grigore Vieru
Young Moldavian poet Grigore Vieru (60-ies). (5798767541).jpg
Ganwyd 14 Chwefror 1935 Edit this on Wikidata
Pererita Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Ionawr 2009 Edit this on Wikidata (73 oed)
Achos: methiant y galon Edit this on Wikidata
Chişinău Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Yr Undeb Sofietaidd, Moldofa Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ion Creangă Pedagogical State University Edit this on Wikidata
Galwedigaeth newyddiadurwr, bardd, awdur geiriau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Popular Front of Moldova Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd y Weriniaeth, Urdd seren Romania, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Urdd y Bathodyn Anrhydedd Edit this on Wikidata

Bardd a llenor plant Rwmaneg o wlad Moldofa oedd Grigore Vieru (14 Chwefror 1935 – 18 Ionawr 2009).

Ganwyd yng ngogledd-ddwyrain Teyrnas Rwmania, pum mlynedd cyn i'r Undeb Sofietaidd gydfeddiannu'r rhanbarth hwnnw a chreu Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Moldafia. Yn ystod y cyfnod Sofietaidd, pan Rwseg oedd yr iaith swyddogol, ysgrifennodd Vieru yn ei famiaith, a siaradodd o blaid uniad diwylliannol Rwmania a Moldofa.

Bu farw yn yr ysbyty yn Chisinau, deuddydd wedi iddo ddioddef anafiadau mewn damwain car. Datganwyd diwrnod cenedlaethol o alaru gan yr Arlywydd Vladimir Voronin.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Moldovan poet Grigore Vieru dies in car crash, The San Diego-Union Tribune (19 Ionawr 2009). Adalwyd ar 3 Mai 2017.


Baner MoldofaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Foldafiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.