Griffith J. Griffith
Griffith J. Griffith | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 4 Ionawr 1850 ![]() Sir Forgannwg ![]() |
Bu farw | 6 Gorffennaf 1919 ![]() Los Angeles ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | diwydiannwr, dyngarwr, newyddiadurwr ![]() |
Priod | Mary Agnes Christina Mesmer ![]() |
Diwydiannwr a dyngarwr Americanwr Cymreig oedd Griffith Jenkins Griffith (4 Ionawr 1850 – 5 Gorffennaf 1919). Ar ôl gwneud ei ffortiwn o syndicâd mwynglawdd yn yr 1880au, rhoddodd Griffith 12.20 km2 o dir i Ddinas Los Angeles a ddaeth yn Barc Griffith.
Cafodd ei eni ym Metws, Sir Forgannwg, Cymru ar 4 Ionawr, 1850. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1865 i Ashland, Pennsylvania. Ym 1873 symudodd i San Francisco, California. Ym 1887 fe briododd Mary Agnes Christina Mesmer (1864-1948).

Enwyd Arsyllfa Griffith yn Los Angeles ar ei ôl.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Bywgraffiad BBC Archifwyd 2012-05-29 yn Archive.is