Gorsaf reilffordd Southport

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Southport
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSouthport Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1851 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSouthport Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.647°N 3.002°W Edit this on Wikidata
Cod OSSD338171 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Côd yr orsafSOP Edit this on Wikidata
Rheolir ganMerseyrail Edit this on Wikidata
Map

Mae gorsaf reilffordd Southport yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref Southport ym mwrdeistref fetropolitan Sefton yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr. Mae’n derminws Lein Gogleddol Merseyrail.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y rheilffordd o Lerpwl hyd at orsaf reilffordd Heol Eastbank ym 1848. Agorwyd yr orsaf presennol, gyda’r enw “Southport Chapel Street” ar 22 Awst 1851. Caewyd gorsaf arall drws nesaf, Gorsaf reilffordd Southport Heol Llundain ym 1857, a defnyddiwyd Chapel Street ar gyfer y trenau i gyd.[2]

O 1882 ymlaen, daeth trenau’r Rheilffordd Gorllewin Swydd Gaerhirfyn o Preston i orsaf arall, Gorsaf reilffordd Heol Derby, hefyd yn agos i’r orsaf presennol. Daeth yr orsaf yn "Southport Canolog" yn ddiweddarach, ac yn y pen draw trosglwyddwyd ei threnau i Chapel Street.

Ym 1884 daeth rheilffordd arall, o’r Pwyllgor Leiniau Swydd Gaer i’r dref, yn defnyddio Gorsaf reilffordd Southport (Heol yr Arglwydd). Caewyd y rheilffordd a’r orsaf ym mis Ionawr, 1952.[3]

Trydaneiddiwyd y rheilffordd o Lerpwl ym 1904.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Merseyrail
  2. Gell, Rob (1986). An Illustrated Survey of Railway Stations Between Southport & Liverpool 1848-1986. Cwmni Cyhoeddi Heyday, ISBN 0-947562-04-4.
  3. Marshall, J (1981). Forgotten Railways: North West England. David & Charles (Cyhoeddwyr) Cyf, Newton Abbott. ISBN 0-7153-8003-6; tud 80
Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.