Gorsaf reilffordd Cei Tywyn
Gwedd
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Tywyn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.5836°N 4.0888°W |
Rheilffordd | |
Terminws gorllewinol Rheilffordd Talyllyn yw Gorsaf reilffordd Cei Tywyn.
Hanes
[golygu | golygu cod]Enw gwreiddiol y safle oedd Gorsaf reilffordd King's. Agorwyd y cei ym 1865, a throsglwydwyd llechi i reilffordd lled safonol y Cambrian. Roedd swyddfa a iard glo. Estynnwyd gwasanaeth i deithwyr ar Reilffordd Talyllyn tuag at ddiwedd y 19eg ganrif, ond deechreuodd trenau i deithwyr o Bendre. Agorwyd Cei Tywyn i deithwyr ym 1911, ond doedd yno ddim platfform. Cymerwyd y rheilffordd drosodd gan gymdeithas warchodaeth y reilffordd ym 1951. Crewyd amgueddfa rheilffordd cledrau cul ar safle’r iard glo, ac estynnwyd y swyddfa wreiddiol. Agorwyd swyddfa estynedig ar 13 Gorffennaf 2005.[1] Mae siop a chaffi yn y brif adeilad ers 2005.
Rhag-orsaf | Reilffyrdd Cledrau Cul | Yr Orsaf Ddilynol | ||
---|---|---|---|---|
terminws | Rheilffordd Talyllyn | Pendre |