Gorsaf Reilffordd Rhuthun
![]() | |
Math | cyn orsaf reilffordd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Rhuthun ![]() |
Agoriad swyddogol | 1862 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1169°N 3.3078°W ![]() |
Nifer y platfformau | 2 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Arferai Gorsaf Reilffordd Rhuthun wasanaethu tref farchnad Rhuthun, Sir Ddinbych rhwng 1862 a 1962. Dyma oedd prif ganolfan y rhan yma o'r lein (Dinbych i Gorwen).
Roedd ganddo ddwy blatfform, fel y gwelir o'r llun, bae seidin a sied nwyddau a ddefnyddid weithiau fel bae platfform.
Cyn gynted ag y dymchwelwyd yr hen orsaf, codwyd Canolfan Grefft Rhuthun yn ei le; gwelir un o'r craeniau ger y Ganolfan Grefft heddiw - yr unig ôl yr orsaf - ar wahân i leoliad 'Rhes y Rheilffordd'.
Roedd Gorsaf Rhuthun rhwng gorsafoedd Rhewl ac Euarth, ar y daith rhwng Dinbych a Chorwen. Gelwid y rhan yma o'r rheilffordd yn London and North Western Railway. Codwyd Gwersty'r Park Place ar gyfer teithwyr y rheilffordd ar ochr orllewinol y dref, ond newidiwyd cyfeiriad y lein, gan fynd drwy ochr arall y dref, yr ochr ddwyreiniol!
-
Gorsaf Rhuthun yn y c. 1910au
-
1963
-
Y craen ger y Ganolfan Grefft, 2010
-
Gwesty'r Park Place
-
Rhes y Rheilffordd