Gorsaf Reilffordd Raven Square, Y Trallwng
| Math | gorsaf reilffordd |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 1981 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Y Trallwng |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.6599°N 3.1598°W |
![]() | |
Gorsaf reilffordd cledrau cul yw Gorsaf Raven Square, sef terminws dwyreiniol y rheilffordd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Aeth y rheilffordd wreiddiol drwy strydoedd Y Trallwng i brif orsaf Rheilffordd y Cambrian yn y dref. Caewyd y rheilffordd ym 1956.
Ailagorwyd rhan orllewinol y rheilffordd gan wirfoddolwyr ar 6 Ebrill 1963 ac estynnwyd y lein yn raddol at Y Trallwng. Penderfynodd Cyngor Tref Y Trallwng beidio â chaniatáu ail-agor y lein drwy'r strydoedd, a phenderfynwyd adeiladu gorsaf Raven Square ar gyrion gorllewinol y dref. Agorwyd yr orsaf newydd ar 18 Gorffennaf 1981. Daeth prif adeilad yr orsaf o Eardisley, a thŵr dŵr o Bwllheli. Mae siop, lle chwech, arddangosfa, swyddfa tocynnau a maes parcio sylweddol wrth law. Adeiladwyd sied newydd ar gyfer y cerbydau yn 2006 er mwyn ehangu trenau'n sydyn pan fo'r angen.


Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Gwefan John Tedstone Archifwyd 2009-01-05 yn y Peiriant Wayback
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol y rheilfordd Archifwyd 2012-10-17 yn y Peiriant Wayback
| Rhag-orsaf | Yr Orsaf Ddilynol | |||
|---|---|---|---|---|
| Terminws | Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion | Sylfaen | ||
