Goleudy Eilean Glas
![]() | |
Math | goleudy ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 57.8569°N 6.642°W ![]() |
Cod OS | NG2474894722 ![]() |
Rheolir gan | Northern Lighthouse Board ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A ![]() |
Manylion | |
Cynlluniwyd Goleudy Eilean Glas gan Thomas Smith ym 1787. Mae’n sefyll ar Sgalpaigh na Hearadh (Ynys Scalpay), un o’r Ynysoedd Allanol Heledd. Trefnwyd y gwaith o greu sail i’r adeilad gan Capten Alex McLeod, perchennog yr ynys a chyraeddwyd uchder o 7 troedfedd erbyn yr haf. Cyrhaeddodd seiri maen o Gaeredin yn 1788, a chwblhawyd eu gwaith erbyn mis Hydref. Gwnaethpwyd gwaith tu mewn yr adeilad gan y saer coed, Archie McVicar o Ogledd Uist. Ychwanegwyd y llusern ym 1789, a daeth y goleudy’n weithredol ar 10 Hydref 1789.
Adeiladwyd y tŵr presennol gan Robert Stevenson yn 1824, yn codi lefel y tŵr i fod yn 73 troedfedd uwchben y môr. Newidiwyd y llusern i un cylchol yn 1852 ac ychwanegwyd seiren niwl ym 1907, yn weithredol hyd at 1987.
Daith y goleudy’n un awtomatig ym 1978.[1]