Glamorgan Gazette
Enghraifft o'r canlynol | papur newydd, Papurau Newydd Cymreig Ar-lein ![]() |
---|---|
Iaith | Saesneg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1894 ![]() |
Rhanbarth | Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |

Mae'r Glamorgan Gazette yn bapur newydd wythnosol ar gyfer ardal Bro Morgannwg gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr. Fe'i sefydlwyd yn 1894 ac mae'n dal i gyhoeddi hyd heddiw. Perchennog y papur newydd yn 2011 oedd Media Wales Cyf. Teitlau cysylltiol y papur yw; Bridgend and Neath Chronicle and County of Glamorgan Advertiser (1888); a'r Central Glamorgan Gazette and General, Commercial and Agricultural Advertiser (1866).[1]
Cyhoeddwyd ac argraffwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan John Evans yn 1894, gan Cwmni Cyfyngedig Argraffu a Chyhoeddi Canolbarth Morgannwg rhwng ca.1900 a ca.1951, gan Glamorgan Gazette Cyf rhwng ca.1951 a 1970, gan Celtic Press Cyf yn 1971, a gan Media Wales Cyf yn 2011.[2]
Mae rhifynau'r papur o'i sefydlu yn 1894 hyd at 1919 (614 rhifyn) wedi eu digido ac ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein.
Ceir hefyd rhifynau wedi eu digido ar wefan British Newspaper Archive gan gynnwys y blynyddoedd canlynol (noder bod bylchau); 1894-1895, 1897-1898, 1900-1984, 1987-1993.[3]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Dolenni allannol[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Glamorgan Gazette". Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2023.
- ↑ "Glamorgan Gazette". Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2023.
- ↑ "Glamorgan Gazette". British Newspaper Archive. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2023.