Gertrude Weil

Oddi ar Wicipedia
Gertrude Weil
Ganwyd11 Rhagfyr 1879 Edit this on Wikidata
Goldsboro, Gogledd Carolina Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1971 Edit this on Wikidata
Goldsboro, Gogledd Carolina Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Smith, Massachusetts
  • Ysgol Horace Mann Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Swyddcadeirydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Smith College, Massachusetts Edit this on Wikidata

Ffeminist Americanaidd oedd Gertrude Weil (11 Rhagfyr 1879 - 30 Mai 1971) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a awliau sifil. Roedd ei gwleidyddiaeth yn ymylu ar yr asgell chwith, a daeth benben â'r sefydliad droeon oherwydd ei chredo, yn bennaf etholfraint.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Goldsboro, North Carolina ac yno hefyd y bu farw a'i chladdu. Tref a oedd yn datblygu'n gyflym, wedi'i lleoli yng Ngogledd Carolina, oedd Goldsboro. Ei rhieni oedd yr Americanwyr Almaeneg-Iddewig Henry a Mina Weil (g. Rosenthal).[1][2][3]

Ymfudodd tad Weil, Henry, o Hamburg, yr Almaen ym 1860, pan oedd yn bedair ar ddeg oed gan ddilyn ei frawd, Herman Weil, a fyddai wedyn yn ymladd yn y Fyddin Cydffederal yn ystod Rhyfel Cartref America. Gan ei fod yn aelwyd gyfoethog, roedd teulu Weil yn cyflogi staff domestig, gan gynnwys gweithwyr gwyn a du.[4] Ym 1883, dim ond 17 mlynedd ar ôl ffurfio cynulleidfa Iddewig gyntaf Gogledd Carolina, fe helpodd rhieni, neiniau a theidiau, modrybedd ac ewythrod Gertrude i ffurfio Synagog Oheb Sholom yn Goldsboro.[5][6][7]

Pan oedd Weil yn 16, yn ystod 1895, fe’i hanfonwyd i Ddinas Efrog Newydd lle mynychodd Ysgol Horace Mann.[8] Yn ystod yr amser hwn yn Ysgol Horace Mann dechreuodd Weil ysgrifennu llythyrau adref at ei theulu, gan drosglwyddo ei phrofiadau yn Efrog Newydd. [9][10]

Yn ystod ei hamser yng Ngholeg Smith daeth Weil da ddylanwad gwaith y diwygwyr blaengar Jane Addams, a mynychodd ddarlithoedd ar anghydraddoldebau rhyw, a darlithoedd ar rôl menywod wrth wynebu cyfiawnder cymdeithasol; daeth y profiadau hyn yn sylfaen ar gyfer gwaith Weil yn y dyfodol.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Ar ôl dychwelyd i Goldsboro, mwynhaodd Weil ychydig o amser hamdden, ond bu hefyd yn chwilio am gyfleoedd i weithio yn y dref. Roedd ei hamser gartref yn caniatáu i Weil ennill profiad mewn tasgau domestig wrth iddi gynorthwyo ei mam gyda tŷ. Bu'n weithgar gyda chlwb yr oedd ei mam wedi helpu i'w sefydlu ym 1899, sef Clwb Merched Goldsboro, lle dysgodd ddosbarthiadau gwnïo i ferched, tlawd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal Smith College, Massachusetts[11] .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gertrude Weil (undated). In Women of Valor exhibit of the Jewish Women's Archive. Retrieved 2015-06-25.
  2. Gertrude Weil—The Rosenthal Family Jewish Women's Archive. JWA.org. Accessed 2015-12-24.
  3. Gertrude Weil—The Weil Family Jewish Women's Archive. JWA.org. Accessed 2015-12-24.
  4. Rogoff, Leonard (2017). Gertrude Weil: Jewish Progressive in the New South. North Carolina: University of North Carolina Press. tt. 15.
  5. Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1009677121.
  6. Dyddiad geni: "Gertrude Weil". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  7. Dyddiad marw: "Gertrude Weil". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  8. "First North Carolinian graduates from Smith College | Jewish Women's Archive". jwa.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-10-10.
  9. Swydd: https://www.jstor.org/stable/23519485.
  10. Anrhydeddau: https://www.smith.edu/about-smith/smith-history/smith-college-medal.
  11. https://www.smith.edu/about-smith/smith-history/smith-college-medal.