George Henry Powell

Oddi ar Wicipedia
George Henry Powell
FfugenwGeorge Asaf Edit this on Wikidata
GanwydGeorge Henry Powell Edit this on Wikidata
27 Ebrill 1880 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Bu farw3 Rhagfyr 1951 Edit this on Wikidata
Hove Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfansoddwr caneuon, awdur geiriau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPack Up Your Troubles in Your Old Kit-Bag Edit this on Wikidata

Ysgrifennwr caneuon, Cymreig oedd George Henry Powell (27 Ebrill 18803 Rhagfyr 1951).

Ganwyd ar 27 Ebrill 1880 yn Llanelwy; cafodd ei addysg yn y dref ac roedd yn aelod o gôr y gadeirlan[1]. Priododd Leila Byron ar 15 Gorffennaf 1905[2]. Roedd yn rhan o'r Harlequinaders, yn gweithio'n llwyddiannus yn neuaddau cerdd, a defnyddiodd yr enw George Asaf.Ysgrifennodd geiriau'r gân "Pack Up Your Troubles in Your Old Kit-Bag" ym 1915. Cyfansoddwyd y tôn gan ei frawd, Felix Powell. Doedd y brodyr ddim yn hoff iawn o'r gân, ond pan drefnwyd cystadleuaeth gan y cyhoeddwyr cerddoriaeth Francis, Day a Hunter i greu cân addas i'r milwyr yn mynd i'r rhyfel, anfonasant y gân, ac enillasant yr ornest. Daeth y gân yn llwyddiant ysgubol yn syth.[3].

Daeth George yn heddychwr a gwrthwynebwr cydwybodol, ac yn hwyrach yn Seientiad Cristnogol.[3].

Aeth y brodyr i Peacehaven i fyw ar ôl y rhyfel. Roeddent hefyd yn berchnogion y Peacehaven Gazette ac wedi agor theatr, y Lureland. Cadwyd y brodyr eu hawliau i'r gân, sydd yn boblogaeth iawn hyd at heddiw, yn arbennig yn amserau rhyfel, a nid yn unig ym Mhrydain[3]. Bu farw yn Hove, Swydd Dwyrain Sussex, ar 3 Rhagfyr 1951.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Cyngor Dinas Llanelwy
  2. [Geiriadur o Gofiant Cenedlaethol Rhydychen]
  3. 3.0 3.1 3.2 The Independent 4 Tachwedd 2010