Gareth Milton
Gareth Milton | |
---|---|
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu ![]() |
Adnabyddus am | Y Pris ![]() |
Actor Cymreig yw Gareth Milton. Fe raddiodd o Goleg Rose Bruford yn 2006 gyda BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn actio.
Mae wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu Cymraeg ar S4C, yn cynnwys rhan Ian Blake yn y ddrama gangster arobryn Y Pris;[1] Jamie Roberts yn Caerdydd (cyfres 4 a 5); Martin yn Alys; a Barry yn Pen Talar.
Daeth Milton yn fwy adnabyddus i gynulleidfa ehangach ar ôl cyd-serennu yn chwarae rhan Dr. Simon Strettle yn Crash ar BBC Wales, ysgrifennwyd gan Tony Jordan.
Yn 2010, ymddangosodd Milton ar y rhaglen deledu rhyngrwyd All Shook Up! fel Dai Jones, llaw dde'r hyfforddwr bocsio Enzo Calzaghe.
Yn 2014 ymddangosodd fel seren gwadd ym mhennod 6 ("Delyth") o gomedi drama rhamantus S4C Cara Fi. Yn hwyr yn 2014 ac yn gynnar yn 2015, ymddangosodd ar Pobol y Cwm fel Harri Wyn, nyrs gofal Meic Pierce.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan Fiction Factory Archifwyd 2016-07-22 yn y Peiriant Wayback.; Adalwyd 2015-12-23