Neidio i'r cynnwys

Gareth Jones: Y Dyn oedd yn Gwybod Gormod

Oddi ar Wicipedia
Gareth Jones: Y Dyn oedd yn Gwybod Gormod
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAlun Gibbard
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi30/01/2014
ArgaeleddAr gael
ISBN9781847718372
GenreCofiannau Cymraeg
CyfresStori Sydyn

Cyfrol gan Alun Gibbard yw Gareth Jones: Y Dyn oedd yn Gwybod Gormod a gyhoeddwyd yn 2014 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Mae'r gyfrol yn un o gyfres Stori Sydyn. Stori'r newyddiadurwr rhyfeddol o'r Bari, Gareth Jones yw hon. Daeth yn enwog fel newyddiadurwr a ddatgelodd y newyn yn yr Wcrain yn y 1930au. Bu farw yn 30 mlwydd oed dan amgylchiadau amheus yn y Dwyrain Pell.

Wedi dros chwarter canrif o ddarlledu ar deledu a radio yn y Gymraeg a'r Saesneg, mae Alun Gibbard bellach yn awdur amser llawn. Erbyn hyn mae wedi cyhoeddi dros ugain o lyfrau ffeithiol greadigol yn y ddwy iaith. Roedd ei gyfrol Who Beat the All Blacks? ar restr fer y British Sports Book Awards 2013 ac yn yr un flwyddyn, bu'n gadeirydd panel beirniaid Llyfr y Flwyddyn. Mae hefyd yn cyfrannu'n wythnosol i gylchgrawn Golwg.


Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]